System dai - Estyn

System dai

Ciplun

Yn Christ College, mae’r system ‘dai’ wedi’i gwreiddio ym mywyd ysgol dyddiol disgyblion preswyl a disgyblion dydd ac yn rhan annatod ohono. Un o effeithiau mwyaf amlwg y system dai yw’r modd y mae’n annog disgyblion i gymryd rhan mewn ystod eithriadol o eang o gystadlaethau academaidd, artistig, drama, cerddorol a chwaraeon. Mae’r cystadlaethau hyn, sy’n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn academaidd, yn helpu i feithrin ymdeimlad cryf o berthyn ymhlith disgyblion. Yn ystod gwasanaethau wythnosol, mae cyffro amlwg wrth iddynt aros i glywed y sgoriau diweddaraf.Y tu hwnt i’r cystadlaethau hyn, mae’r system dai yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi lles disgyblion yn yr ysgol. Mae’n darparu haen werthfawr ychwanegol o ofal ac yn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu perthnasoedd ymddiriedus, parchus a chadarnhaol â staff y tai a chyd-ddisgyblion o bob oed, mewn lleoliadau preswyl a dydd ar draws yr ysgol.