Sylw arbennig: ffocws ysgol gyfan ar wella medrau ysgrifennu disgyblion - Estyn

Sylw arbennig: ffocws ysgol gyfan ar wella medrau ysgrifennu disgyblion

Ciplun

Mae ffocws ar ddatblygiad proffesiynol staff i gryfhau dulliau o addysgu ysgrifennu wedi sicrhau bod prosesau cyson ac effeithiol ar waith. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ysgrifennu’n dda, ac mae medrau ysgrifennu disgyblion hŷn yn eithriadol. Maent yn ysgrifennu’n ddychmygus ac yn greadigol i ennyn diddordeb y darllenydd ac yn cymhwyso eu medrau’n bwrpasol, gan ddefnyddio geirfa dechnegol yn eu gwaith ar draws y cwricwlwm.