Rheoli newid
Mae Chestnut Hill wedi rheoli newidiadau sylweddol yn effeithiol, gan gynnwys y newid o fod yn ysgol breswyl i fod yn ysgol ddydd a gwneud gwaith adnewyddu ar y safle. Mae arweinwyr wedi cynnal momentwm trwy gynllunio strategol, cyfathrebu clir ac ymgysylltiad cryf gan staff. Mae staff wedi chwarae rhan weithredol yn y broses bontio, gan feithrin ymdeimlad o berchnogaeth a dealltwriaeth o flaenoriaethau esblygol yr ysgol. Mae hyn wedi helpu i gynnal eu cymhelliant, ac mae llawer o staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn dangos gwydnwch. Mae cyfleoedd hyfforddi helaeth, yn enwedig ym meysydd trawma ac awtistiaeth, wedi cryfhau eu harbenigedd ymhellach. Mae buddsoddiad ariannol gan y perchennog wedi arwain at welliannau sylweddol i’r safle, gan wella’r amgylchedd dysgu a morâl staff. Mae arweinwyr wedi rhoi prosesau hunanwerthuso strwythuredig ar waith, er bod systemau ysgol gyfan ar gyfer olrhain cynnydd disgyblion yn parhau i gael eu datblygu. Mae’r llywodraethu’n gryf, gyda chorff llywodraethol gwybodus a chefnogol yn sicrhau atebolrwydd ac addysg o ansawdd uchel. Mae cyfarfodydd rheolaidd a chydweithio o fewn y grŵp ysgolion yn atgyfnerthu goruchwyliaeth effeithiol. Trwy fabwysiadu dull pwyllog a chynhwysol, mae arweinwyr wedi rheoli’r newidiadau hyn yn llwyddiannus, gan sicrhau sefydlogrwydd a gweledigaeth strategol glir. Er bod rhai mentrau yn dal i fod yn eu dyddiau cynnar, mae’r ysgol mewn sefyllfa dda i barhau i wneud cynnydd.