Rheoli newid yn effeithiol i ddiwallu anghenion pawb.
Ciplun
Mae Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant yn gymuned ofalgar a chynhwysol sy’n addasu’n dda i anghenion unigol ei disgyblion. Mae’r pennaeth, y staff a’r llywodraethwyr wedi creu a gweithredu gweledigaeth sy’n cofleidio amrywiaeth eu cymuned leol. Mae pwyslais cryf ar werthoedd craidd a diwylliant yn treiddio trwy arferion dyddiol a phrofiadau dysgu. Mae bron pob disgybl yn teimlo ymdeimlad cryf o berthyn, yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i gynnwys, ac yn cyfrannu’n gadarnhaol at fywyd yr ysgol a’r gymuned ehangach. Mae cwricwlwm yr ysgol yn adlewyrchu’r weledigaeth hon trwy bynciau diddorol a gweithgareddau ymarferol sy’n cymell y rhan fwyaf o ddysgwyr ac yn eu helpu i ddod yn uchelgeisiol ac yn greadigol.