Radio ysgol ‘Sain y Sosban’ - Estyn

Radio ysgol ‘Sain y Sosban’

Ciplun

Mae disgyblion y chweched dosbarth yn cynllunio a rhannu darllediadau wythnosol trwy orsaf radio’r ysgol, ‘Sain y Sosban’. Maent yn darlledu amrywiaeth o gerddoriaeth gyfoes Gymraeg a rhannu negeseuon sy’n cyd-fynd â ffocws lles yr wythnos. Mae cymuned yr ysgol yn mwynhau gwrando ar y darllediad yn ystod y sesiwn lles wythnosol. Mae hyn yn rhoi llwyfan creadigol i rannu gwybodaeth a hyrwyddo Cymreictod yn yr ysgol a chreu ymdeimlad cryf o gymuned Ysgol y Strade.