Presenoldeb a chyfranogiad yn y sector ôl-16: Gwerthusiad o bresenoldeb, cyfranogiad ac arfer darparwyr ledled Cymru - Estyn

Presenoldeb a chyfranogiad yn y sector ôl-16: Gwerthusiad o bresenoldeb, cyfranogiad ac arfer darparwyr ledled Cymru

Thematic Report


Crynodeb Gweithredol

Mae’r adroddiad hwn yn ystyried presenoldeb a chyfranogiad ymhlith dysgwyr amser llawn rhwng 16 ac 19 oed mewn colegau addysg bellach a dosbarthiadau chweched ysgolion ledled Cymru. Rydym yn diffinio presenoldeb fel presenoldeb y dysgwr mewn sesiwn wedi’i hamserlennu, naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein. Rydym yn cydnabod y gallent barhau i gyfranogi yn eu dysgu mewn ffyrdd eraill. Mae’n ystyried patrymau mewn presenoldeb, y ffactorau sy’n dylanwadu ar bresenoldeb isel ac effeithiolrwydd dulliau i wella presenoldeb.

Mae’r adroddiad yn defnyddio tystiolaeth o ymweliadau rhithwir a gynhaliwyd ar-lein gyda cholegau ac ysgolion ledled Cymru, trafodaethau â dysgwyr a staff, ymatebion i arolygon a dadansoddiad o ddata presenoldeb sydd ar gael. Canfu’r adolygiad nad oes dull cenedlaethol cyson o fesur presenoldeb yn y sector ôl-16 nac adrodd arno ar hyn o bryd. O ganlyniad, nid yw ffigurau presenoldeb yn gwbl gymaradwy ar draws darparwyr, ac mewn rhai achosion, nid yw prif ddata presenoldeb yn adlewyrchu presenoldeb corfforol dysgwyr mewn gwersi yn gywir. Mae’r anghysondebau hyn yn lleihau defnyddioldeb data presenoldeb ar gyfer meincnodi, hunanwerthuso a chynllunio gwelliant.

Dros y tair blynedd ddiwethaf, awgrymodd data darparwyr fod dysgwyr yn mynychu tuag 80% o wersi wedi eu hamserlennu ar draws darpariaeth ôl-16. Mae hyn ymhell islaw’r disgwyliadau presenoldeb a osodwyd gan ddarparwyr ac yn dangos bod presenoldeb yn peri pryder o hyd ar draws dosbarthiadau chweched ysgolion a cholegau addysg bellach, fel ei gilydd.

Roedd patrymau presenoldeb yn amrywio mwy yn ôl lefel cwrs, grŵp blwyddyn a’r math o ddarpariaeth nag yn ôl maes pwnc. Roedd presenoldeb yn gryfach ym Mlwyddyn 12 ac ar gyrsiau lefel uwch, yn cynnwys cyrsiau Safon Uwch a rhaglenni galwedigaethol Lefel 3, ac yn wannach mewn darpariaeth Lefel Mynediad, Lefel 1 a darpariaeth orfodol fel darpariaeth ailsefyll ar gyfer Saesneg a mathemateg TGAU neu sesiynau Bagloriaeth Cymru. Roedd dysgwyr yn fwy tebygol o fynychu gwersi yr oeddent yn eu hystyried yn berthnasol i’w dilyniant yn y dyfodol, tra roedd materion amserlennu, yn cynnwys bylchau hir rhwng gwersi, hefyd yn effeithio ar bresenoldeb ar gyfer lleiafrif o ddysgwyr.

Mewn llawer o ddarparwyr, roedd arweinwyr wedi dechrau cryfhau eu defnydd o ddata presenoldeb trwy wahaniaethu’n gliriach rhwng presenoldeb a chyfranogiad, dadansoddi patrymau a thueddiadau yn agosach a chysylltu gwybodaeth am bresenoldeb â data ehangach ar gynnydd a lles dysgwyr. Fodd bynnag, nid yw lleiafrif o ddarparwyr yn dadansoddi data presenoldeb yn ddigon trylwyr, yn enwedig wrth ystyried grwpiau o ddysgwyr. Mae hyn yn cyfyngu ar eu gallu i werthuso effaith ymyriadau a nodi patrymau sy’n dod i’r amlwg mewn presenoldeb gwael.

Roedd ystod o ffactorau yn cyfrannu at bresenoldeb is. Roedd y rhain yn cynnwys cynnydd a adroddwyd mewn pryderon am les emosiynol dysgwyr, pwysau ariannol a chyflogaeth ran-amser. Roedd dysgwyr yn aml yn disgrifio’r heriau hyn mewn termau ymarferol, yn cynnwys cludiant annibynadwy neu ddrud, cydbwyso cyflogaeth ochr yn ochr ag astudio ac anawsterau o ran dychwelyd i arferion mynychu rheolaidd yn dilyn cyfnodau o absenoldeb. Anaml yr oedd y ffactorau hyn yn digwydd ar wahân, ac yn gyffredinol, roedd darparwyr yn cydnabod bod angen cymorth hyblyg ac unigoledig i wella presenoldeb, sy’n aml yn cynnwys cydweithio â theuluoedd, asiantaethau allanol a gwasanaethau cymorth ehangach.

Roedd tystiolaeth o drafodaethau gyda dysgwyr ac ymweliadau â darparwyr yn awgrymu bod presenoldeb wedi’i gysylltu’n agos â mwynhad dysgwyr o’u cyrsiau. Lle mae’r addysgu yn effeithiol ac yn symbylu ymgysylltiad dysgwyr, roeddent yn fwy tebygol o fynychu’n rheolaidd. Roedd dysgwyr hefyd yn gwerthfawrogi darparwyr lle roedd staff yn eu hadnabod yn dda, yn ymateb yn gyflym i bryderon ac yn darparu cymorth hyblyg, lle bo’n briodol.

Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr yn gosod disgwyliadau addas o amgylch presenoldeb. Fodd bynnag, roedd gormod o amrywiad o ran pa mor gyson roedd y disgwyliadau hyn yn cael eu gweithredu, eu monitro a’u hatgyfnerthu. Yn yr arfer gryfaf, roedd arweinwyr yn cynnal disgwyliadau uchel trwy fonitro systematig, ymyrraeth amserol a threfniadau atebolrwydd clir.

Roedd darparwyr wedi dechrau cryfhau dulliau i hyrwyddo presenoldeb, yn cynnwys ymagwedd gefnogol ac unigoledig at bresenoldeb gwael. Un o’r cryfderau nodedig ar draws y rhan fwyaf o ddarparwyr oedd ymddangosiad a datblygiad rolau cymorth arbenigol fel hyfforddwyr bugeiliol, anogwyr cynnydd ac anogwyr dysgwyr a mabwysiadu dulliau ‘tîm o amgylch y dysgwr’. Lle roedd y trefniadau hyn wedi eu sefydlu’n dda, roeddent yn cefnogi nodi pryderon ynghylch presenoldeb yn gynharach, ymyrraeth fwy cydlynus a chyfathrebu cryfach â dysgwyr a theuluoedd.

Roedd y rhan fwyaf o ddarparwyr yn cydnabod bod perthynas gref rhwng presenoldeb, cyfranogiad a deilliannau dysgwyr. Yn aml, roedd presenoldeb uwch yn gysylltiedig â chyrhaeddiad, cadw a dilyniant cryfach. Er bod darparwyr yn cydnabod yn gynyddol y gallai dysgwyr barhau i ymgysylltu â dysgu o bell neu drwy blatfformau ar-lein yn ystod cyfnodau o  absenoldeb, roedd hyn yn cael ei ystyried yn drefniant dros dro neu eithriadol sy’n gysylltiedig ag amgylchiadau dysgwyr unigol. Roedd darparwyr yn pwysleisio’n gyson fod presenoldeb rheolaidd yn darparu mwy na budd academaidd. Mae’n cefnogi datblygiad cymdeithasol dysgwyr, mynediad at addysgu arbenigol, datblygu ymddygiadau proffesiynol a pharodrwydd ar gyfer cyflogaeth neu addysg uwch.

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn

Lawrlwythwch yr adroddiad llawn