Podlediad Sgwrs: Taith wella gydag Estyn: Llywio gweithgarwch dilynol
Podlediadau
Yn y bennod hon o Sgwrs, mae Kevin Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol gydag Estyn, yn arwain trafodaeth onest ac ymarferol am y siwrnai o arwain ysgolion mewn categorïau dilyniant a mesurau arbennig.
Yn ymuno ag ef mae Becca Pugh, Pennaeth Ysgol Gymraeg Pen y Garth, a Jamie Hallett, Pennaeth Ysgol Bro Sannan ac Ysgol Gymraeg Gilfach Fargoed. Mae’r ddau yn rhannu eu profiadau personol o arwain ysgolion drwy gyfnodau heriol, ymateb i argymhellion arolygiad, ac adeiladu diwylliant newydd ar gyfer gwelliant.
Mae’r sgwrs yn edrych ar bwysigrwydd perthnasoedd cryf, arweinyddiaeth glir, hunanwerthuso effeithiol, a gweithio gyda staff, dysgwyr a chymunedau i sicrhau newid cynaliadwy.