Podlediad Sgwrs: Sgiliau Darllen: Ffocws ar Addysg Uwchradd
Sut gall ysgolion ddatblygu medrau darllen disgyblion a meithrin diwylliant o ddarllen er pleser?
Yn y bennod hon, mae Bethan Wyn Jones, Arolygydd Ei Fawrhydi gydag Estyn, yn croesawu Sophie Spillane o Ysgol Gymraeg Glantaf a Hannah Jones o Ysgol Gyfun Rhydywaun idrafod pwysigrwydd darllen mewn ysgolion uwchradd.
Maent yn rhannu arferion effeithiol a phrofiadau ymarferol o ddatblygu medrau darllen ar draws y cwricwlwm, cefnogi disgyblion sy’n cael anhawster darllen, a chryfhau hyder athrawon drwy hyfforddiant a chydweithio. Mae’r drafodaeth hefyd yn archwilio ffyrdd creadigol o annog disgyblion i darllen er mwynhad a sicrhau bod darllen yn gyfrifoldeb i’r ysgol gyfan.