Partneriaeth effeithiol â rhieni a gofalwyr
Mae cymorth yr ysgol i rieni yn eithriadol ac yn diwallu eu hanghenion amrywiol yn dda iawn. Mae pob aelod o staff yr ysgol yn cyfathrebu’n rheolaidd â rhieni, sy’n meithrin lefelau uchel o ymddiriedaeth a pharch rhwng y ddwy ochr. Mae’r ysgol yn trefnu rhaglenni cymorth cynhwysfawr sydd wedi’u teilwra i anghenion rhieni. Er enghraifft, mae’n creu rhwydweithiau i rieni sy’n wynebu heriau tebyg ac yn hwyluso gweithgareddau cymdeithasol i helpu teuluoedd sydd newydd gyrraedd y wlad i gymdeithasu ac integreiddio’n llwyddiannus.
Cynhelir sesiynau rheolaidd i rieni ddysgu medrau newydd, fel gwersi coginio, yn ogystal â sesiynau sy’n eu cefnogi i wella dysgu eu plant. Mae cymorth yr ysgol yn meithrin cydlyniant cymunedol ac yn creu dull partneriaeth hynod lwyddiannus o gefnogi anghenion dysgu ac emosiynol disgyblion.