Monitro a hybu presenoldeb disgyblion - Estyn

Monitro a hybu presenoldeb disgyblion

Ciplun

Mae’r prosesau tynn sydd gan yr ysgol i hybu presenoldeb yn gryfder sylweddol. Mae arweinwyr yn dadansoddi amrywiaeth o ddata’n rheolaidd i nodi tueddiadau ym mhresenoldeb blynyddoedd ysgol a grwpiau o ddisgyblion, gan wneud cymariaethau defnyddiol. Mae pwysigrwydd presenoldeb yn cael ei rannu yn effeithiol gyda rhieni. Mae dull graddedig o ymyrryd yn syth pan fydd presenoldeb disgyblion yn dechrau peri pryder ac mae arweinwyr yn sicrhau bod hybu presenoldeb da yn gyfrifoldeb ar yr holl staff. Mae gwerthusiadau rheolaidd yn digwydd o effeithiolrwydd gwaith yr ysgol i wella presenoldeb disgyblion, gyda strategaethau yn cael eu haddasu yn ôl yr angen. Mae gwaith yr ysgol yn y maes hwn wedi arwain at welliannau sylweddol.