Meithrin perthnasoedd parchus i greu diwylliant dysgu. - Estyn

Meithrin perthnasoedd parchus i greu diwylliant dysgu.

Arfer effeithiol

Croesyceiliog School

Grŵp o ddisgyblion ysgol uwchradd mewn gwisg ysgol yn cerdded ar hyd coridor llachar dan do gyda ffenestri mawr, rhai yn cario bagiau ac un yn dal ffôn.

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Croesyceiliog yn ysgol uwchradd gydaddysgol 11-16 oed sydd wedi’i lleoli yng Nghwmbrân ac yn gwasanaethu dalgylch eang ar draws Awdurdod Lleol Torfaen. Mae 1195 o ddisgyblion ar y gofrestr, y mae 19% ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae 5.9% o ddisgyblion ar y gofrestr ADY. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Ar ôl penodi pennaeth newydd yn hydref 2022, cynhaliodd arweinwyr werthusiad yn cynnwys pob un o’r rhanddeiliaid, a nododd fod angen sefydlu rhesymeg glir ar gyfer gwella lles, ymddygiad a chynhwysiant. Cydnabuont nad oedd cyfrifoldebau arweinyddiaeth yn cael eu dosbarthu’n ddigon da i ddiwallu anghenion disgyblion, yn enwedig o ran lles a chynhwysiant. Cydnabuont hefyd fod arferion gwael a darpariaeth gyfyngedig i gefnogi lles disgyblion yn arwain at ymddieithrio i leiafrif o ddisgyblion yn rhy aml. Cyfrannodd hyn at ddiwylliant gwan ar gyfer dysgu. O ganlyniad, roedd cyfraddau gwaharddiadau yn rhy uchel ac roedd presenoldeb islaw disgwyliadau, yn enwedig ar gyfer y disgyblion hynny sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. 

Cydnabu arweinwyr fod angen alinio dysgu a lles, a chyflwynwyd strategaeth ‘adolygu ac adnewyddu’, yn cynnwys cynllun strategol tair blynedd clir. Cymerodd staff ran mewn ymchwil wedi’i harwain gan ymholi a defnyddiodd arfer orau o leoliadau eraill i gefnogi eu gweithgareddau monitro, gwerthuso ac adolygu (MGA) eu hunain. Arweiniodd y dull cydweithredol hwn at ddatblygu dull ymddygiad ‘Yn Barod i Ddysgu’ teilwredig a ‘Pholisi Perthnasoedd’, yr oedd y weledigaeth ‘Lles i bawb’ a dysgu’n rhydd o darfu yn sail iddo. 

Erbyn dechrau blwyddyn academaidd 2023–2024, cefnogwyd y dull newydd gan raglen dysgu proffesiynol ddefnyddiol ar gyfer pob un o’r athrawon a’r staff cymorth. Yn sgil platfform digidol newydd ar gyfer cofnodi ymddygiad ac ymgysylltu, cryfhawyd olrhain, monitro a chyfathrebu â theuluoedd. Yn Hydref 2024,  mireiniwyd strategaethau, prosesau a rolau o fewn y tîm lles ymhellach gan adolygiad Presenoldeb, Ymddygiad a Diwylliant i sicrhau system fugeiliol hynod effeithiol. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

O dan  faniffesto  dysgu’r  ysgol,  sef  ‘ceisio DYSGU, disgwyl PARCH, cymeradwyo UCHELGAIS’,  rhoddodd  arweinwyr  lefel uchel o bwysigrwydd i ddiwylliant arferion cadarnhaol ar gyfer dysgu. Fe wnaeth y prosesau monitro a gwerthuso cadarn gynorthwyo arweinwyr i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella a  herio staff i wella. 

I ddechrau, rhoddodd arweinwyr flaenoriaeth i gynyddu capasiti ac effeithiolrwydd timau lles a chynhwysiant. Cydweithiodd uwch arweinwyr i sicrhau bod yr agwedd hon yn sail i’r holl benderfyniadau strategol a wneir. Mae pennaeth cynorthwyol ar gyfer ymddygiad a diwylliant, a gefnogir gan reolwr ymddygiad, yn sicrhau dull ataliol o ran ymddygiad ac yn hyrwyddo diwylliant dysgu cadarnhaol. Caiff llinellau atebolrwydd clir a rolau wedi’u diffinio’n dda eu cyfleu i rieni, disgyblion a staff.  

Mae’r diwylliant ‘Yn Barod i Ddysgu’ a’r ‘Polisi Perthnasoedd’ yn hyrwyddo disgwyliadau uchel a pherthnasoedd cadarnhaol, gan rymuso staff i arwain dysgu yn  eu  hystafelloedd  dosbarth  o  fewn fframwaith ymddygiad cyson. Mae dysgu proffesiynol a gyflwynir gan y tîm lles yn canolbwyntio ar arferion adferol a meithrin perthnasoedd parchus. Helpodd y gwaith hwn  arweinwyr  i ddatblygu perthnasoedd ymddiriedus â disgyblion a’u rhieni i’w helpu i ddeall disgwyliadau’r ysgol o amgylch ymddygiad, ymgysylltiad a chynnydd. Roedd hyn yn golygu y gallai cymorth targedig gael ei nodi a’i ddarparu’n gyflym, pan roedd angen.    

Darparodd arweinwyr ddysgu proffesiynol effeithiol ar gyfer staff i’w helpu i ddatblygu strategaethau i gefnogi ymgysylltiad disgyblion a sefydlu dulliau cyson i reoli ymddygiad disgyblion. O ganlyniad, mae pob un o’r staff yn dilyn arferion cytûn ysgol gyfan yn hyderus. Maent yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi’n dda gan arweinwyr i reoli ymgysylltiad ac ymddygiad disgyblion. Mae hyn wedi helpu sicrhau bod disgyblion yn deall disgwyliadau’r ysgol.  

Mae systemau gwell ar gyfer olrhain lles (Presenoldeb, Ymddygiad, Ymddygiad, Diwylliant) yn galluogi arweinwyr i ddefnyddio data yn effeithiol i nodi anghenion disgyblion a gwerthuso darpariaeth. Mae disgyblion yn cymryd perchnogaeth o’u presenoldeb a’u hymddygiad trwy olrheiniwr lles amser dosbarth, sy’n meithrin annibyniaeth ac ymreolaeth. Mae deialog reolaidd rhwng disgyblion a’u tiwtoriaid dosbarth yn ystod sesiynau wedi eu hamserlennu yn cefnogi ymgysylltiad disgyblion ymhellach yn y meysydd pwysig hyn. 

Mae’r polisi ffonau symudol ‘O’r Giât i’r Giât’ ar gyfer staff a disgyblion yn rhoi eglurder ar ddefnyddio dyfeisiau ac yn cefnogi arferion dysgu cadarnhaol a diwylliant diogelu. Mae strategaethau ychwanegol, fel y ‘Polisi Toiledau’ a’r dull ‘pum munud yn hwyr’ yn annog hunanreolaeth disgyblion ac yn cynnal ffocws cryf ar ddysgu. 

Caiff darpariaethau o ansawdd uchel i gefnogi disgyblion eu hadeiladu tuag i fyny o angen disgyblion a’u helpu i oresgyn rhwystrau rhag dysgu. Mae’r darpariaethau hyn yn cynnwys rhaglenni teilwredig sydd wedi eu hanelu at wella ymddygiad, lles ac ymgysylltiad â’r cwricwlwm. Mae’r darpariaethau hyn yn cynnwys: 

  •  Mewngymorth (presenoldeb / ymgysylltu â’r ysgol) 
  •  Y Bont (ymddygiad, lles ac ymgysylltu â’r cwricwlwm – darpariaeth amgen) 
  • Turnaround (lles / hunanreoleiddio) 
  • Mentora (ymddygiad) 
  • COMIT (cyfathrebu emosiynol) 

Caiff darpariaeth ei chydlynu trwy’r Panel Darpariaeth Disgyblion i sicrhau bod disgyblion yn cael cymorth priodol a bod ymyriadau’n cyflawni’r effaith orau posibl a’r gwerth gorau posibl am arian. 

Caiff staff eu hysbysu’n dda trwy fwletinau rheolaidd, ‘Croesy on a Page’ (crynodeb bob pythefnos o ymddygiad, ADY, deilliannau, ymgysylltiad rhieni, a data derbyniadau), cylchlythyrau addysgu a dysgu, a diweddariadau am les. Mae hyn yn meithrin ymdeimlad cryf o berthyn a gwaith tîm, lle mae pob un o’r staff yn rhannu cyfrifoldeb am lwyddiant yr ysgol ac yn eu helpu i adnabod y disgyblion yn dda.  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae ffocws strategol yr ysgol ar les, ymddygiad a chynhwysiant wedi arwain at welliannau buddiol mewn darpariaeth a deilliannau. Cryfhawyd yr arweinyddiaeth o ran lles a chynhwysiant yn nodedig. Mae cynnwys staff, disgyblion a rhieni mewn creu a datblygu’r systemau ymddygiad, wedi sicrhau bod y rhain yn cael eu deall yn dda. Mae hyder staff mewn rheoli ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth wedi cynyddu. Maent yn defnyddio arferion cyson ac yn canmol yn fedrus i sefydlu a chynnal ystafell ddosbarth drefnus ac amgylchedd dysgu cadarnhaol.  

Mewn gwersi, mae bron pob un o’r disgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol at ddysgu. Mae tarfu wedi gostwng yn sylweddol, ac mae disgyblion yn dangos uchelgais ac ymgysylltiad gwell, gan gyfrannu at y ffaith fod llawer o ddisgyblion yn gwneud y cynnydd disgwyliedig, o leiaf. Mae darpariaeth yn canolbwyntio ar y disgyblion ac yn ymatebol i anghenion unigol. Mae ymyriadau targedig wedi cael effaith gadarnhaol ar bresenoldeb, ymddygiad a lles, gan sicrhau bod disgyblion yn cael cymorth amserol ac effeithiol. Mae disgyblion yn falch o fod yn aelodau o gymuned yr ysgol.  

Mae cyfraddau gwaharddiadau wedi gostwng yn sylweddol, mae presenoldeb wedi gwella’n dda, a dywed disgyblion fod ganddynt ymdeimlad cryfach o berthyn a lles. Mae’r pwyslais ar berthnasoedd a dulliau adferol wedi cefnogi’r ysgol i symud oddi wrth safiad adweithiol ar ymddygiad i fodel rhagweithiol ac ataliol. Mae’r diwylliant hwn o barch a pherthnasoedd cadarnhaol yn sail i bob agwedd ar fywyd yr ysgol. 

Mae amser dosbarth bellach yn rhan bwrpasol o’r diwrnod ysgol. Mae disgyblion yn cymryd perchnogaeth o’u lles, eu hymddygiad a’u presenoldeb, sydd wedi cryfhau eu dealltwriaeth o’r cysylltiad rhwng ymgysylltiad, presenoldeb a chyflawniad.  

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer da?

Mae’r ysgol wedi sefydlu ei hun yn arweinydd o fewn yr awdurdod lleol ym meysydd ymddygiad, lles, presenoldeb a chynhwysiant. Mae arweinwyr yn cyflwyno dysgu proffesiynol ar gyfer ysgolion eraill yn rheolaidd ac yn cyfrannu at rwydweithiau lleol a rhanbarthol. 

Mae arweinwyr yn cyflwyno mewn cynadleddau consortiwm a chyfarfodydd rhwydwaith penaethiaid, gan rannu strategaethau ac effaith. Mae’r ysgol wedi datblygu modiwl dysgu proffesiynol ar gyfer rhaglen gymorth yr awdurdod lleol, gan ganolbwyntio ar greu darpariaeth amgen effeithiol. Mae’r modiwl hwn yn cynnwys cyfweliadau ac astudiaethau achos wedi eu ffilmio sy’n cynnwys arweinwyr, athrawon a disgyblion, sy’n darparu mewnwelediadau ymarferol ar gyfer lleoliadau eraill.