Meithrin perthnasoedd cryf i gefnogi lles disgyblion - Estyn

Meithrin perthnasoedd cryf i gefnogi lles disgyblion

Ciplun

Mae arweinwyr wedi sefydlu diwylliant lle mae lles disgyblion wrth wraidd pob agwedd ar fywyd yr ysgol. Mae oedolion yn trin disgyblion â pharch a sensitifrwydd ac yn darparu lefelau uchel o gymorth i unigolion sy’n ymdopi â thrawma emosiynol. O ganlyniad, mae bron pob disgybl yn teimlo ymdeimlad cryf o berthyn i’r ysgol ac mae’r perthnasoedd rhwng disgyblion ac oedolion yn hynod effeithiol.