Meithrin ansawdd trwy arweinyddiaeth gydweithredol
Mae cydweithio yn nodwedd arbennig o gryf o waith yr ysgol. Mae gwerthoedd cyffredin a phenderfyniad cadarn i wneud y gorau dros bob disgybl yn sail i ethos tîm cryf ymhlith staff. Pan fydd staff yn nodi bod angen gofal neu gymorth ychwanegol ar ddisgybl, mae cydweithwyr o bob rhan o’r ysgol yn cydweithio i rannu arbenigedd a dod o hyd i atebion. Mae uwch arweinwyr yn ymestyn eu dull cydweithredol i gryfhau arweinyddiaeth ar draws yr ysgol. Mae pob aelod o’r staff addysgu yn arwain maes gwella ysgol, yn ogystal â darparu cymorth i’r rhai sy’n arwain agweddau eraill ar gynllun datblygu’r ysgol. Mae’r dull cydweithredol hwn yn meithrin gallu ac yn galluogi arweinwyr i sefydlu darpariaeth o ansawdd uchel ar draws y rhan fwyaf o agweddau ar waith yr ysgol.