Meithrin annibyniaeth a pharatoi disgyblion i fod yn hyderus ar gyfer bywyd y tu hwnt i’r ysgol
Mae dysgu sy’n gysylltiedig â gwaith yn nodwedd arbennig o gryf o ddarpariaeth yr ysgol. Mae disgyblion yn elwa ar brofiadau ymarferol sydd wedi’u strwythuro’n ofalus ac sy’n eu paratoi’n dda ar gyfer bywyd fel oedolion. Trwy ddarpariaeth fenter yr ysgol, Brews, Blooms and Bargains, mae disgyblion yn datblygu medrau bywyd go iawn, fel trin arian, paratoi bwyd, gwasanaethu cwsmeriaid a chyfathrebu’n hyderus â’r cyhoedd. Mae staff yn darparu cymorth sensitif ac yn lleihau’r cymorth hwn dros amser, gan alluogi disgyblion i ddatblygu annibyniaeth ac ymfalchïo yn eu cyflawniadau. Mae dysgu yn y gymuned yn atgyfnerthu’r gwaith o baratoi disgyblion ar gyfer eu camau nesaf. Mae disgyblion yn ymarfer medrau teithio, yn siopa’n annibynnol ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith ar safle’r ysgol ac yn y gymuned leol. Mae’r profiadau hyn yn helpu disgyblion i gymhwyso eu medrau mewn cyd-destunau dilys ac i ddatblygu hyder, gwydnwch a’r gallu i reoli eu hunain. Lle bo’n briodol, mae disgyblion yn ennill ystod addas o achrediadau allanol sy’n cydnabod eu cynnydd ac yn cefnogi pontio llwyddiannus.