Medrau digidol
Ciplun
Mae disgyblion yn datblygu eu medrau digidol yn dda. Mae disgyblion yng nghyfnod allweddol 3 a’r chweched dosbarth yn defnyddio dyfeisiau digidol a ddarperir gan yr ysgol yn gyfrifol ac yn annibynnol i gyfoethogi eu dysgu. Yn eu gwersi cyfrifiadureg, mae disgyblion yn mwynhau ystod o gyfleoedd pwrpasol i ddatblygu ystod eang o fedrau defnyddiol, er enghraifft sut i ymholi cronfa ddata yn llwyddiannus. Ar draws y cwricwlwm, mae cyfleoedd buddiol i ddatblygu medrau digidol disgyblion yn raddol mewn cyd-destunau dilys, fel pan fydd disgyblion yn creu cod syml i reoli dyfais micro.