Mae sesiynau Ysgol y Goedwig, dan arweiniad staff hyfforddedig, yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion gysylltu â natur a datblygu eu lles personol. Trwy weithgareddau fel crefft coed, heriau tîm a datrys problemau, mae disgyblion yn dysgu rheoli risg, dangos dyfalbarhad ac adeiladu sgiliau cydweithio. O ganlyniad, maent yn datblygu hyder, gwydnwch ac ymwybyddiaeth emosiynol well. Mae ymrwymiad yr ysgol i ddysgu awyr agored yn creu amgylchedd naturiol ac ysgogol sy’n hyrwyddo lles ac agwedd gadarnhaol at ddysgu.
Ciplun
Yr ysgol tu allan