Llywodraethwyr yn gweithio gydag arweinwyr i wireddu eu gweledigaeth ar gyfer ysgol ddwy ffrwd gynhwysol - Estyn

Llywodraethwyr yn gweithio gydag arweinwyr i wireddu eu gweledigaeth ar gyfer ysgol ddwy ffrwd gynhwysol

Ciplun

Mae aelodau’r corff llywodraethol yn cyfrannu at sicrhau bod rhieni’n gallu dewis iaith y ddarpariaeth pan fydd eu plant yn dechrau yn yr ysgol. Maent yn cefnogi gweledigaeth yr ysgol ar gyfer cymuned ddwyieithog gytbwys lle mae pob disgybl ac aelod o staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Mae hyn yn annog cydweithio ar draws y ddwy ffrwd iaith, gan gryfhau perthnasoedd a meithrin cysylltiadau cadarn rhwng disgyblion, staff a’r gymuned ehangach.