roi blaenoriaeth i ddatblygu medrau llythrennedd mewn cynlluniau gwella a chynlluniau gwaith;
olrhain a monitro cynnydd pob disgybl, yn enwedig y rhai ar raglenni ymyrraeth a dysgwyr mwy abl, i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud cynnydd da ar draws pob cyfnod allweddol;
amlinellu cyfleoedd ar gyfer llafaredd, darllen ac ysgrifennu ar draws y cwricwlwm, yn enwedig o ran gwella ysgrifennu estynedig disgyblion a chywirdeb eu gwaith ysgrifenedig;
monitro ac arfarnu effaith y strategaethau ar gyfer gwella llythrennedd; a
hyfforddi athrawon i gynllunio mwy o gyfleoedd heriol ym mhob pwnc i ddatblygu medrau darllen ac ysgrifennu lefel uwch disgyblion.
Dylai awdurdodau lleol:
lunio strategaeth llythrennedd ddatblygedig a mecanweithiau i wella safonau ar draws y cwricwlwm; a
chefnogi ysgolion wrth hyfforddi pob aelod o staff i ddefnyddio strategaethau llythrennedd effeithiol, yn cynnwys rhannu arfer orau rhwng ysgolion.
Dylai Llywodraeth Cymru:
roi arweiniad a chymorth i athrawon i’w helpu i roi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol ar waith a datblygu medrau llythrennedd ar draws y cwricwlwm.