Llais y Plentyn: Creu Marciau a Ffrindiau Gohebol - Estyn

Llais y Plentyn: Creu Marciau a Ffrindiau Gohebol

Arfer effeithiol

Allsorts Nursery C.I.C

Dau blentyn ifanc yn eistedd wrth fwrdd, yn lluniadu mewn llyfrau nodiadau gyda phensys lliw, gyda chyflenwadau celf wedi’u gosod o’u blaenau.

Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Meithrinfa Allsorts yn feithrinfa cyfrwng Saesneg ym mhentref Crucywel, Powys. Mae’r lleoliad cyn-ysgol ar safle Ysgol Gynradd Crucywel ond yn gweithredu’n annibynnol o ran cyllid a rheolaeth. Mae’r lleoliad yn darparu 2 awr o addysg gynnar a ariennir bob dydd (9:00-11:00am), yn ogystal â darpariaeth gofal plant ar gyfer plant 2 a 3 oed.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r lleoliad yn rhoi pwyslais cryf ar ymateb i ddiddordebau a syniadau plant i ffurfio profiadau dysgu ystyrlon. Mae ymarferwyr yn arsylwi plant yn agos ac yn defnyddio’r arsylwadau hyn i gynllunio profiadau difyr sy’n hyrwyddo chwilfrydedd, cyfathrebu, a chreu marciau cynnar mewn ffordd naturiol a chymhellol. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae stori am y môr, sy’n sôn am neges mewn potel, yn tanio chwilfrydedd plant am sut mae negeseuon yn teithio. Wedyn, mae ymarferwr yn cyflwyno “neges mewn potel” go iawn y daethpwyd o hyd iddi dramor, gan ennyn diddordeb y plant ymhellach, a darparu cyfle i ddilyn llais y plentyn ac ymestyn dysgu ar draws y pum llwybr datblygiadol. 

Wedi i’r plant gael eu cyfareddu gan y neges mewn potel, mae ymarferwyr yn cynllunio ystod o brofiadau penagored yn gysylltiedig â thema’r môr a chyfathrebu. Cyflwynir llyfrau, cerddi, cerddoriaeth a dawns yn gysylltiedig â’r môr, ochr yn ochr â thrafodaethau ynghylch o ble mae’r botel wedi dod a pha mor bell y mae wedi teithio.  

Mae un plentyn yn penderfynu creu ei neges ei hun mewn potel yn annibynnol. Mae ymarferwyr yn ymateb trwy wahodd pob un o’r plant i gymryd rhan, gan ddarparu amrywiaeth o ddeunyddiau i gefnogi creu marciau, tynnu llun ac ysgrifennu cynnar. Caiff poteli eu harchwilio yn yr hambwrdd dŵr hefyd, gan alluogi plant i ymchwilio i arnofio, suddo a symud trwy chwarae. 

Wedyn, mae diddordeb y plant yn datblygu i fod yn drafodaethau am sut mae llythyrau yn teithio, rôl y post, a phobl sy’n dosbarthu llythyrau. Yn sgil hyn, mae plant yn anfon llythyrau gartref ac mae rhieni’n cael eu hannog i bostio atebion i’r lleoliad. I adeiladu ar y brwdfrydedd hwn, mae plant yn dechrau gohebu â phlant mewn lleoliad arall ym Mhowys, yn cyfnewid lluniau, marciau, a negeseuon sydd weithiau’n gysylltiedig â digwyddiadau a rennir fel y Nadolig a’r Pasg. 

Y cam nesaf yw gwahodd y plant i greu capsiwlau amser a fydd yn cael eu cadw hyd nes i’r plant adael yr ysgol gynradd fwydo, a bydd atgofion am eu cyfnod yn y lleoliad yn cael eu rhannu yn ystod gwasanaeth ar gyfer y plant sy’n gadael Blwyddyn 6.   

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r dull hwn wedi cael effaith gadarnhaol ar y ddarpariaeth a dysgu plant. Mae plant yn llawn cymhelliant i ymgymryd â chreu marciau fel ffordd ystyrlon o gyfathrebu, gyda chynnydd amlwg yn nifer y plant sy’n dewis gwneud hynny yn annibynnol. 

Mae plant yn dechrau deall bod ystyr i farciau ac ysgrifennu. Mae cyd-destun bywyd go iawn ysgrifennu llythyrau yn cryfhau cysylltiadau rhwng y cartref a’r lleoliad, ac mae rhieni’n mynd ati i gefnogi cyfathrebu. Mae gohebiaeth â lleoliad arall yn ymestyn ymdeimlad plant o ddiben, cyffro a chynulleidfa ymhellach ar eu cyfer wrth iddynt greu marciau cynnar. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r lleoliad wedi rhannu ei arfer da  trwy  agor  y  ddarpariaeth  i  leoliadau  eraill  ledled  Powys.  Cynhaliodd  ymarferwyr  ddigwyddiad  ‘Rhwydweithio a Sgwrsio’,  yn  gwahodd  cydweithwyr  i  ymweld â’r lleoliad, edrych o gwmpas yr amgylchedd dysgu, cyfarfod â staff, a chymryd rhan mewn deialog broffesiynol anffurfiol. Rhoddodd hyn gyfleoedd i rannu ymagweddau at ddarpariaeth ac arfer, yn cynnwys y modd y gall dilyn llais y plentyn arwain at brofiadau dysgu ystyrlon a chynaledig.