iExplore: Ymagwedd Ysgol Olchfa at gyfoethogi’r cwricwlwm
Quick links:
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Olchfa yn ysgol gyfun gymysg fawr 11-18, cyfrwng Saesneg sydd wedi’i lleoli mewn ardal faestrefol i’r gorllewin o Abertawe. Mae 1,907 o ddisgyblion ar y gofrestr, y mae 466 yn y chweched dosbarth. Mae tua 12.02% o ddisgyblion rhwng Blynyddoedd 7 ac 11 yn cael prydau ysgol am ddim. Mae tua 40% o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol neu gefndiroedd pobl Ddu ac ethnig lleiafrifol, a siaredir dros 50 o ieithoedd, heblaw’r Saesneg a’r Gymraeg, yng nghartrefi disgyblion. Mae gan ychydig llai na 5% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac mae gan 9.2% ohonynt lefel o gaffael Saesneg sy’n llai na chymwys.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Ar ôl cyhoeddi ‘Dyfodol Llwyddiannus’ ac i baratoi ar gyfer Cwricwlwm i Gymru, llwyddodd Ysgol Olchfa i ennill statws Ysgol Arloesi. Sefydlodd hyn ddiwylliant arloesi o amgylch strwythur a chynllun y cwricwlwm, gan orffen ag ‘iLearn’, sef cwricwlwm ar gyfer Blynyddoedd 7, 8 a 9. Mae gan arweinwyr weledigaeth ar gyfer eu cwricwlwm fel y ‘profiad bywyd’ a ddylai roi’r wybodaeth, y medrau a’r profiadau i fod yn ddisgyblion uchelgeisiol, creadigol, moesegol a hyderus yn ystod eu cyfnod yn Ysgol Olchfa, a thu hwnt.
Cyflwynodd Ysgol Olchfa ‘iExplore’ i ymateb i angen a nodwyd gan ddisgyblion i deilwra a chyfoethogi darpariaeth cwricwlwm ‘iLearn’ ym Mlwyddyn 9, gan gydnabod y byddai’r disgyblion hyn yn gwneud dewisiadau ar gyfer astudio ym Mlwyddyn 10 cyn bo hir. Mae gwersi ‘iExplore’ yn cyfrif am 4 o’r 50 gwers a gaiff disgybl Blwyddyn 9 bob pythefnos. Maent yn darparu cyfle i ddisgyblion ddatblygu medrau a diddordebau newydd, yn ogystal â chryfhau rhai presennol, ochr yn ochr â dysgu parhaus o fewn y Meysydd Dysgu a Phrofiad (MDPh) yr oeddent yn gyfarwydd â nhw ym Mlynyddoedd 7 ac 8.
Bob blwyddyn, mae arweinwyr y chwe MDPh yn cynllunio ystod o gyrsiau ‘dewisol’ i ehangu neu ddyfnhau profiad y cwricwlwm i ddisgyblion Blwyddyn 9. Dylai fod gan bob cwrs ‘iExplore’ y potensial i feithrin angerdd disgybl mewn maes a ddewiswyd, dylent alluogi cymhwyso gwybodaeth bwnc yn ystyrlon mewn cyd-destunau byd go iawn a dilys, neu gynnig llawenydd mewn dysgu rhywbeth newydd, mewn ffordd newydd, gyda phobl newydd.
Mae’r ysgol yn cynnig 24 o gyrsiau ‘iExplore’ i gyd, ac o’r rhain, mae disgyblion Blwyddyn 9 yn astudio dau gwrs; un yn hanner cyntaf y flwyddyn ac un yn yr ail hanner. Dyma enghreifftiau o gyrsiau ‘iExplore’ a gynhelir:
- Fforenseg
- Ysgrifennu creadigol
- Y Gyfraith a Throseddeg
- Arweinyddiaeth Chwaraeon
- Chwarae â rhaglennu
- Theatr gerddorol
- Dod yn ddatryswr problemau
Mae ‘iExplore’ yn chwarae rhan bwysig mewn cyflawni gweledigaeth yr ysgol ar gyfer ‘Cynefin’ Ysgol Olchfa, gan roi cyfleoedd i ddysgwyr fod yn arweinwyr arnyn nhw eu hunain a dysgu mwy am ddiwylliant a chefndir Cymru. Mae ‘iExplore’ yn darparu cyfle i astudio rhywbeth yn gysylltiedig â llwybr gyrfa, rhywbeth creadigol neu wreiddiol. Mae’r ysgol yn archwilio’r syniadau hyn gyda dysgwyr wrth iddynt wneud eu dewisiadau ‘iExplore’ ym Mlwyddyn 8.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Cynhelir ehangder y cynnig ‘iExplore’ trwy baru pynciau ar draws y flwyddyn i uchafu effeithlonrwydd staffio. Yn ystod Blwyddyn 8, mae dysgwyr yn dewis pum cwrs ‘iExplore’, yn nhrefn eu dewis. Yn y rhan fwyaf o achosion, dyrennir y cwrs ‘iExplore’ o’u dewis cyntaf a’u hail ddewis i ddisgyblion ac mae arweinwyr yn ymateb trwy gynnal amryfal ddosbarthiadau os oes galw i wneud hynny. Mae’r dull hwn nid yn unig yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i arweinwyr ar ddewisiadau pwnc dysgwyr, gan gefnogi cwricwlwm tymor hir a chynllunio staffio, ond hefyd yn sicrhau bod cynnig ‘iExplore’ yn parhau’n gost effeithiol.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Mae cofnodion data tair ‘Agwedd at Ddysgu’ yr ysgol dros Flwyddyn 9 yn dangos lefelau arbennig o uchel o ymgysylltu ar draws ystod o bynciau ‘iExplore’. Dywed rhai disgyblion fod ‘iExplore’ yn gyfle i arbenigo mewn pwnc sydd o ddiddordeb iddyn nhw, tra bod disgyblion eraill yn croesawu’r effaith gyfoethog a gaiff ar eu profiad a’u lles ym Mlwyddyn 9. Mae’r ffaith fod diwrnodau ysgol yn dod â llawenydd yn ganolog i weledigaeth yr ysgol ar gyfer Olchfa, ac mae adborth gan ddisgyblion a theuluoedd yn awgrymu mai dyna’n union beth mae ‘iExplore’ yn ei wneud ar gyfer disgyblion Blwyddyn 9. Mae rhai disgyblion yn newid eu dewis o lwybr o Flwyddyn 9 i Flwyddyn 10 o ganlyniad i brofi eu diddordeb mewn pwnc trwy eu dewisiadau cyrsiau ‘iExplore’. Mae llais y disgybl wedi helpu mireinio ‘iExplore’, ac mae Bwrdd Cynghori’r ysgol (grŵp rhanddeiliaid o rieni, disgyblion, llywodraethwyr a staff) wedi gofyn i ‘iExplore’ barhau trwy Flynyddoedd 10–13, sy’n rhywbeth y mae arweinwyr yn ei archwilio erbyn hyn.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae Ysgol Olchfa yn cynnal ymweliadau gan staff o ysgolion eraill yn rheolaidd, ac mae wedi ymrwymo i bartneriaeth ar draws system a phŵer gwelliant ysgolion rhwng cymheiriaid.