A1 Gwella ansawdd yr addysgu mewn ieithoedd tramor modern trwy sicrhau eu bod:
yn cynyddu’r defnydd o’r iaith asesedig fel yr iaith cyfarwyddo ar draws cyfnod allweddol 3, cyfnod allweddol 4 ac yn y sector ôl-16
yn helpu dysgwyr i gael amgyffrediad cadarn o reolau ynganu’r iaith y maent yn ei dysgu
yn helpu dysgwyr i ddefnyddio ystod eang o strategaethau i baratoi’n hyderus ar gyfer arholiadau llafar, fel bod dysgwyr yn datblygu rhuglder llafar ar lefelau yn unol â’u galluoedd
yn gwneud yn siŵr bod dysgwyr o bob gallu yn cael eu herio’n llawn ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau iaith creadigol sy’n datblygu eu meistrolaeth o’r iaith
yn cadw cydbwysedd priodol rhwng addysgu gramadeg a’r pedwar medr iaith, yn enwedig siarad a gwrando
yn asesu gwaith dysgwyr gan ddefnyddio strategaethau ystyrlon o ran asesu ar gyfer dysgu
A2 Mynychu grwpiau rhwydwaith rhanbarthol a hyfforddiant rhanbarthol, a chymryd rhan ynddynt, i ddatblygu medrau lefel uwch mewn addysgu a dysgu ieithoedd tramor modern
Dylai penaethiaid ac uwch arweinwyr:
A3 Gwella nifer y dysgwyr sy’n astudio o leiaf un iaith dramor fodern ar lefel arholiad trwy adolygu eu trefniadau ar gyfer cynllunio ac amserlennu’r cwricwlwm
A4 Gwneud yn siwr bod eu hathrawon ieithoedd tramor modern yn gallu manteisio ar ddatblygiad proffesiynol parhaus ‘Dyfodol byd-eang’ a gynigir mewn rhanbarthau ac ar eu traws i wella ansawdd dysgu ac addysgu ieithoedd tramor modern