Hyrwyddo’r Gymraeg - Estyn

Hyrwyddo’r Gymraeg

Ciplun

Mae’r ysgol yn hyrwyddo’r Gymraeg yn gyson dda drwy ddarparu cyfleoedd rheolaidd i ddisgyblion ddefnyddio’r iaith mewn cyd-destunau dilys, gan gynnwys canu caneuon Cymraeg. Mae gwasanaethau wythnosol, dan arweiniad hyderus grŵp llais y disgybl, yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ymarfer a datblygu eu medrau llafaredd Cymraeg. Erbyn iddynt adael yr ysgol, mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion hŷn yn datblygu medrau Cymraeg llafar cadarn. Maent yn ymateb yn briodol i gwestiynau mwy cymhleth ac yn dangos hyder a balchder yn eu hunaniaith Gymreig ac wrth ddefnyddio’r iaith.