Hyrwyddo ymdeimlad deuluol trwy gynnal lles disgyblion
Ciplun
Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu’r parodrwydd i rannu a thrafod eu teimladau pan fo’r angen. Mae staff yn cefnogi’r disgyblion i ddefnyddio dulliau effeithiol sy’n eu helpu i reoli eu hemosiynau, datblygu empathi a chefnogi lles eu cyfoedion. Mae’r ysgol wedi creu diwylliant lle mae siarad am les emosiynol yn rhan annatod o’r ddarpariaeth. Er enghraifft, maent wedi sefydlu’r ardd les a’r cwt clyd er mwyn hyrwyddo ymwybyddiaeth o bwysigrwydd deall emosiynau gwahanol a chefnogi ei gilydd. Mae’r dull hwn yn cynnal ymdeimlad o berthyn ac yn hyrwyddo gwerthoedd yr ysgol yn llwyddiannus.