Hyrwyddo statws ieithoedd rhyngwladol yn y cwricwlwm - Estyn

Hyrwyddo statws ieithoedd rhyngwladol yn y cwricwlwm

Ciplun

Mae’r ysgol wedi cynllunio cwricwlwm ieithoedd rhyngwladol cyson ar gyfer disgyblion yr ysgol ac ysgolion partner o Flwyddyn 5 ymlaen. Mae arbenigwr pwnc yn cynnal gwersi ieithoedd rhyngwladol wythnosol ar draws y clwstwr er mwyn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion ddod yn gyfarwydd â’r berthynas rhwng nifer o ieithoedd gan gynnwys Ffrangeg, Sbaeneg ac Eidaleg. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar agweddau disgyblion tuag at ieithoedd a’u parodrwydd i gyfrannu ar lafar mewn sesiynau.Mae cyswllt buddiol gydag ysgol yn Guadeloupe yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion oed uwchradd ddod i adnabod plant o ddiwylliant gwahanol, ac i ddefnyddio iaith rhyngwladol mewn cyd-destun cymdeithasol. O ganlyniad i’r hyn oll, mae disgyblion yn meithrin agweddau cadarnhaol at amlieithrwydd. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar y canran o ddisgyblion sy’n parhau i astudio ieithoedd rhyngwladol yng Nghyfnod Allweddol 4 ac yn y chweched dosbarth.