Hyrwyddo Dwyieithrwydd
Mae’r ysgol wedi blaenoriaethu’n effeithiol ei strategaeth i wella a hyrwyddo dwyieithrwydd. Mae disgyblion yn cael cyfleoedd gwerthfawr i glywed staff a chyfoedion yn defnyddio’r Gymraeg y tu mewn a thu allan i ystafelloedd dosbarth, er enghraifft mewn gwasanaethau ysgol gyfan. Yn ogystal, mae’r ysgol yn darparu cyfleoedd gwerth chweil i ddisgyblion ddatblygu eu dealltwriaeth o dreftadaeth a diwylliant Cymru. Er enghraifft, mewn crefydd, gwerthoedd, a moeseg maent yn astudio dylanwad diwygwyr Cymreig fel Robert Owen a Nye Bevan. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol tuag at yr iaith ac yn dechrau datblygu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg ym mywyd ysgol. Mae’r ‘Cyngor Cymraeg’, grŵp o ddisgyblion sy’n arwain ar ddwyieithrwydd, yn trefnu gweithgareddau i ddisgyblion yn rheolaidd. Mae disgyblion hŷn yn cymryd rhan weithredol mewn mentrau fel ‘Clwb Clebrân’ i roi hwb i’w hyder wrth siarad Cymraeg. Mae dwyieithrwydd hefyd yn cael ei annog drwy’r polisi ymddygiad cadarnhaol, lle mae disgyblion yn ennill pwyntiau canmoliaeth am siarad Cymraeg.