Hwsmonaeth anifeiliaid
Ciplun
Nodwedd arloesol arall o’r cwricwlwm yw’r cwrs rheoli anifeiliaid a gynigir ar lefel 3. Mae’r ddarpariaeth hon yn ymateb i ddymuniad penodol disgyblion i ddilyn cwrs sy’n seiliedig ar wyddoniaeth ac yn canolbwyntio ar anifeiliaid. Mae’r adran hwsmonaeth anifeiliaid, sydd ag adnoddau da, hefyd yn cefnogi addysgu gwyddoniaeth gymhwysol BTEC ar lefel 2 a sesiynau gweithgaredd i ddisgyblion a gynigir o Flwyddyn 5 ymlaen ar draws yr ysgol. Mae’r cyfleoedd hyn yn cefnogi lles disgyblion, yn ogystal â rhoi cyfle iddynt ddatblygu eu hastudiaethau academaidd ymhellach.