Gwneud defnydd effeithiol o arian grant i gefnogi dysgu ac adeiladu perthynas cryf gyda theuluoedd
Quick links:
Gwybodaeth am y lleoliad
Mae lleoliad cyn-ysgol Aberriw ym mhentref Aberriw ar dir safle Ysgol Gynradd Gymunedol Aberriw. Mae’n lleoliad blynyddoedd cynnar a reolir gan bwyllgor sy’n cynnig darpariaeth addysg, gofal plant a Dechrau’n Deg. Mae’r lleoliad cyn-ysgol wedi’i gofrestru i ofalu am hyd at 24 o blant ym mhob sesiwn, rhwng dwy a phedair oed, ac yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.00-3.00 yn ystod y tymor yn unig.
Mae’r lleoliad yn adnabyddus am ei amgylcheddau awyr agored cyffrous a deniadol. Mae’r rhain wedi cael eu datblygu’n ystyriol dros gyfnod, a diddordebau ac anghenion datblygiadol plant yw’r prif sbardun ar gyfer newid. Mae’r lleoliad yn darparu amgylchedd lle mae plant yn teimlo bod eu lleisiau’n cael eu clywed a bod ganddynt y rhyddid i archwilio, gwneud dewisiadau a dod yn ddysgwyr hyderus, creadigol ac annibynnol.
Mae ymarferwyr yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni’r uchelgais hon. Mae pob ymarferwr yn annog plant i wneud dewisiadau a chymryd cyfrifoldeb am eu dysgu trwy ddilyn arweiniad plentyn ac ychwanegu adegau addysgadwy at eu chwarae. Caiff y lleoliad ei arwain gan reolwr lleoliad ymroddgar a myfyriol, arweinwyr profiadol, ymarferwyr brwdfrydig ac unigolyn cyfrifol ymrwymedig a gefnogir gan bwyllgor gwirfoddol. Gyda’i gilydd, maent yn dod â chyfoeth o wybodaeth, gofal ac angerdd i greu amgylchedd gwresog i blant ei archwilio’n rhydd.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae ymarferwyr yn deall bod yna blant a fyddai’n elwa ar oriau ychwanegol, ond ni all eu teuluoedd ariannu oriau ychwanegol yn y lleoliad. I ymateb i hynny, mae’r lleoliad bellach yn cynnig oriau ychwanegol i ddarparu’r un cyfleoedd ar gyfer pob un o’r plant. Mae hyn i wneud yn siŵr nad yw plant wedi eu nodi yn cael eu rhoi dan anfantais ac yn cael yr un cyfleoedd â’u cyfoedion.
Mae Grant Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar (GDBC) yn darparu’r adnoddau i’r lleoliad ddiwallu’r angen hwn ac yn darparu cyfle i blant a nodwyd wneud cynnydd gwell a chulhau’r bwlch anfantais. Mae ymarferwyr yn darparu sesiynau aros a chwarae i hyrwyddo perthnasoedd â theuluoedd, gan gynorthwyo rhieni a gofalwyr i ddatblygu dealltwriaeth well o sut mae eu plentyn yn dysgu. Yn ei dro, mae’r dull hwn yn magu hyder ac yn cefnogi’r plant wrth iddynt bontio i’r lleoliad cyn-ysgol. Y nod yw cefnogi teuluoedd dan anfantais i deimlo’u bod wedi eu grymuso i helpu dysgu eu plentyn gartref. Mae’r lleoliad yn ystyried y ffordd orau i gyrraedd teuluoedd ac yn defnyddio amrywiaeth o strategaethau i alluogi hyn.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Mae arweinwyr ac ymarferwyr yn defnyddio Grant Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar i dargedu teuluoedd a nodwyd. Defnyddir y grant mewn sawl ffordd i sicrhau eu bod yn cefnogi teuluoedd sydd fwyaf mewn angen. Maent yn sicrhau bod plant a nodwyd yn gallu manteisio ar oriau ychwanegol bob wythnos. Nid yw’r plant hyn yn cymhwyso ar gyfer oriau gofal plant ac maent dan anfantais o gymharu â theuluoedd sy’n cymhwyso ar gyfer yr oriau neu’n gallu ariannu’r oriau eu hunain. Mae’r lleoliad hefyd yn sicrhau bod aelod ychwanegol o staff yn cael ei gyflogi i gefnogi plant a nodwyd i fodelu iaith a chefnogi eu lles.
Mae’r lleoliad yn rhoi pwysigrwydd mawr i hyrwyddo cariad am lyfrau ac yn cydnabod nad oes gan bob teulu fynediad at y llyfrgell neu efallai nad ydynt yn gallu fforddio llyfrau stori gartref. Maent yn darparu llyfrgell benthyg, a chaiff teuluoedd eu hannog i gymryd llyfrau i’w rhannu gyda’u plentyn gartref. Mae hyn bellach yn cynnwys llyfrau i rieni a gofalwyr eu mwynhau.
Mae ymarferwyr yn sylweddoli bod cefnogi rhieni yn hanfodol wrth gynorthwyo plant i ddysgu mwynhau llyfrau a darllen. Maent yn gweithio ochr yn ochr â rhieni yn ystod sesiynau aros a chwarae, sy’n darparu cyfleoedd gwerthfawr i fodelu dysgu a datblygiad iaith. Darperir adnoddau ar gyfer teuluoedd i’w mwynhau gyda’u plant gartref, sy’n datblygu hyder y plentyn ac yn cefnogi ei fedrau.
Anfonir gwahoddiadau at deuluoedd a nodwyd, ac mae ymarferwyr yn cysylltu â nhw’n unigol i sgwrsio am y sesiynau. Caiff posteri a gwybodaeth gysylltiedig eu harddangos ar yr hysbysfwrdd a’i rhannu o fewn y cylchlythyr wythnosol. Rhennir yr holl wybodaeth hon gyda theuluoedd trwy gyfryngau digidol.
Darperir mwy o gyfleoedd i deuluoedd fwynhau ymweliadau o fewn yr ardal leol, fel reid ar drên Siôn Corn. Ceir ystod o gyfleoedd i bob un o’r plant fwynhau profiadau cyfoethog a datblygu iaith. Darperir hyn yn rhad ac am ddim ar gyfer teuluoedd a nodwyd, a chedwir costau’n isel i sicrhau ei fod yn gynhwysol i bawb. Mae’r tripiau yn darparu cyfleoedd i gyfarfod â theuluoedd y tu allan i’r lleoliad ac yn magu hyder rhieni i gyfarfod ag ymarferwyr, teuluoedd eraill a meithrin perthnasoedd cadarnhaol. Mae’r lleoliad yn gwerthuso’r strategaethau hyn wrth iddynt asesu effaith eu dulliau ar hyder a lles plant.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?
Caiff y dull hwn effaith sylweddol iawn ar ddarpariaeth a safonau plant. Mae teuluoedd yn hyderus i ddod i’r lleoliad, cyfarfod ag ymarferwyr a gofyn cwestiynau am ddysgu a datblygiad eu plentyn. Maent yn hyderus i gefnogi eu plentyn gartref, ac mae’r cymorth hwn yn parhau pan mae eu plentyn yn pontio i’r ysgol. O ganlyniad, mae pob un o’r plant yn gwneud cynnydd da iawn o’r cychwyn cyntaf ar eu taith ddysgu, ac yn gadael y lleoliad yn annibynnol, yn llawn cyffro ac yn hyderus i ddysgu. Yn ei dro, mae hyn yn helpu’r lleoliad i gyflawni ei weledigaeth i greu dysgwyr hyderus, creadigol ac annibynnol.
Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?
Mae’r awdurdod lleol wedi rhannu’r arfer dda hon trwy ganllawiau Cynllun Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar. O ganlyniad, mae lleoliadau eraill wedi defnyddio’r grant yn yr un ffordd.