Gwella presenoldeb trwy ymateb strwythuredig, ysgol gyfan - Estyn

Gwella presenoldeb trwy ymateb strwythuredig, ysgol gyfan

Arfer effeithiol

Grŵp o ddisgyblion mewn gwisg ysgol yn cerdded i lawr grisiau awyr agored, gyda rheiliau ar y ddwy ochr a gwyrddni o’u cwmpas.

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gyfun Heolddu yn ysgol uwchradd 11-18 oed ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Mae gan yr ysgol boblogaeth o ryw 740 o ddisgyblion, ac mae 33% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Mae’r ysgol wedi profi cyfnod o dwf sylweddol yn niferoedd y disgyblion dros y 5 mlynedd ddiwethaf, gan arwain at gynnydd yn niferoedd y staff. Mae’r uwch dîm arweinyddiaeth yn cynnwys y Pennaeth, y Dirprwy Bennaeth a thri Phennaeth Cynorthwyol. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae cyfraddau presenoldeb ysgol gyfan disgyblion, gan gynnwys y disgyblion hynny sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, wedi bod uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, ac uwchlaw cyfraddau presenoldeb ysgolion tebyg, rhwng 2022-2023 a 2024-2025. Mae absenoldeb parhaus yn sylweddol is nag ydyw mewn ysgolion tebyg, yn enwedig ar gyfer y ddwy flynedd ddiwethaf. 

Nododd uwch arweinwyr fod anghysondebau wrth olrhain, monitro a chyfleu presenoldeb yn rhwystr allweddol rhag lleihau absenoldeb parhaus. Yn benodol, roedd angen cryfhau’r drefn o ran nodi’n gynnar, egluro rolau staff, a gwella’r modd roedd pryderon am bresenoldeb yn cael eu cyfleu i ddisgyblion a theuluoedd, yn enwedig yng nghyd-destun anfantais economaidd-gymdeithasol. 

I ymateb i hynny, datblygodd yr ysgol strategaeth bresenoldeb ragweithiol a graddol, gydag olrhain fforensig, atebolrwydd clir ar bob lefel, a ffocws cryf ar liniaru effaith tlodi ar bresenoldeb yn sail iddi.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

I fynd i’r afael ag absenoldeb parhaus, rhoddodd yr ysgol bwyslais cryf ar ddadansoddi a chyfleu data ‘wythnos doredig’ ar bob lefel. Cyflwynwyd y dull hwn i wella dealltwriaeth o batrymau presenoldeb, yn enwedig lle caiff absenoldeb ei nodweddu gan ddiwrnodau unigol, gwasgaredig yn hytrach nag absenoldeb parhaus. 

Mae defnyddio ‘wythnosau toredig’ wedi bod yn ganolog i wella’r modd y caiff presenoldeb ei ddeall gan ddisgyblion, staff a theuluoedd. Roedd ffigurau presenoldeb canran yn aml yn cael eu camddehongli; er enghraifft, roedd 90% yn cael ei ystyried yn dderbyniol, tra bod cysyniad ‘wythnosau toredig’ yn rhoi cynrychiolaeth gliriach a mwy diriaethol o ddysgu a gollwyd. Er enghraifft, mae absenoldeb mynych ar un diwrnod bob wythnos yn dod yn fwy amlwg pan gaiff ei gyflwyno fel achos o darfu ar wythnosau lluosog. Mae hyn wedi bod yn hynod effeithiol wrth helpu teuluoedd i adnabod effaith gronnol absenoldeb gwasgaredig yn aml, fel absenoldeb mynych ar ddydd Gwener.  

Caiff disgyblion eu cynnwys yn weithredol yn y broses hon. Trwy sesiynau tiwtor strwythuredig, mae disgyblion yn olrhain eu hwythnosau toredig eu hunain dros gyfnod, gan eu galluogi i nodi patrymau yn eu presenoldeb, deall yr effaith ar eu dysgu, a gosod targedau personoledig ar gyfer gwella. Mae hyn wedi cryfhau perchnogaeth ac ymgysylltiad disgyblion mewn gwella presenoldeb. 

Mae system olrhain wythnosol gynhwysfawr yn sail i’r dull hwn, sy’n cyflwyno data presenoldeb yn weledol gan ddefnyddio dangosyddion codau lliw i amlygu gwelliannau a phryderon. Mae hyn yn galluogi staff i nodi patrymau, tueddiadau a llwybrau ar gyfer unigolion a grwpiau yn gyflym. Mae Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd yn cynnal dadansoddiad fforensig manwl o’r data hwn i nodi pryderon sy’n dod i’r amlwg yn gynnar, ac yn cydlynu ymyriadau amserol, yn cynnwys Cyfarfodydd Presenoldeb Ysgol ac atgyfeiriadau i asiantaethau allanol, lle bo’n briodol. 

Ochr yn ochr â hyn, gweithredodd yr ysgol ddull ysgol gyfan graddedig ar gyfer presenoldeb, wedi’i gefnogi gan rolau wedi’u diffinio’n glir ar gyfer pob un o’r staff, o diwtoriaid dosbarth i uwch arweinwyr. Mae hyn yn sicrhau cysondeb, atebolrwydd, ac uwchgyfeirio am gymorth yn amserol. 

Caiff y strategaeth ei nodweddu gan: 

  • Ymyrraeth ragweithiol: nodi’n gynnar trwy olrhain data amser real ac arolygon llais y disgybl bob hanner tymor i nodi rhwystrau 
  • Llwybrau uwchgyfeirio clir: gan gynnwys llythyrau ‘Wythnos Doredig’, Cyfarfodydd Presenoldeb  Ysgol, rhybuddion Hysbysiad Cosb Benodedig a phrosesau cyfreithiol, lle mae angen 
  • Partneriaethau cryf: cydweithio agos â’r Awdurdod Lleol, Swyddogion Lles Addysg ac ystod o asiantaethau allanol i ddarparu cymorth cydlynus  
  • Ffocws ar degwch: ymyriadau targedig i fynd i’r afael â rhwystrau yn gysylltiedig â thlodi a lles  
  • Cydnabyddiaeth a chymhelliant: gwobrau wythnosol, yn cynnwys rafflau presenoldeb, ochr yn ochr â chydnabyddiaeth dymhorol a blynyddol am bresenoldeb cynaledig neu well 
  • Cymorth hyblyg, teilwredig: strategaethau unigoledig fel addasiadau i’r amserlen, pasys hwyr ac atgyfeiriadau i wasanaethau arbenigol 

Caiff y gwaith hwn ei gryfhau ymhellach trwy ddull amlasiantaethol, gyda phanel dan arweiniad yr ysgol sy’n cynnwys Rhaglen Mewngymorth CAMHS, y Gwasanaeth Seicoleg Addysg, y Gwasanaeth Cymorth Ymddygiad, y Swyddog Lles Addysg a gwasanaethau Gofalwyr Ifanc. Yn ychwanegol, mae uwch arweinwyr wedi blaenoriaethu ymgysylltiad cymunedol i fynd i’r afael â rhwystrau economaidd-gymdeithasol ehangach, yn cynnwys gweithdai i deuluoedd, gweithgareddau cymunedol fel côr ysgol, a boreau coffi rheolaidd lle mae asiantaethau allanol yn darparu cymorth hygyrch. Mae’r asiantaethau hyn hefyd yn bresennol mewn nosweithiau ymgysylltu â rhieni a digwyddiadau pontio, sy’n sicrhau bod teuluoedd yn gallu manteisio ar gyngor a chymorth mewn lleoliad cyfarwydd. Mae mentrau cymorth cymunedol targedig yn helpu lleihau rhwystrau rhag presenoldeb ymhellach.  

Gyda’i gilydd, mae’r dulliau hyn yn sicrhau yr eir i’r afael â phresenoldeb trwy systemau clir, cyfathrebu cyson, ymyrraeth dargedig a phartneriaethau cryf, gan alluogi’r ysgol i ymateb yn rhagweithiol ac yn effeithiol i absenoldeb parhaus.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae gweithredu’r strategaeth hon wedi arwain at welliannau sylweddol a chynaledig mewn presenoldeb, yn enwedig ar gyfer grwpiau bregus. 

  • Er 2022-23, mae cyfradd presenoldeb yr ysgol wedi parhau i wella bob blwyddyn. Mae cyfradd gwelliant yr ysgol yn uwch ar gyfer pob blwyddyn na chyfraddau gwelliant ar gyfer gweddill Cymru.  
  • Cyfradd gwelliant yr ysgol ar gyfer 2022/23 i 2023/24 oedd 1.3 o gymharu â 0.5 ar gyfer gweddill Cymru. Cyfradd gwelliant yr ysgol ar gyfer 2023/24 i 2024/25 oedd 2.4 o gymharu ag 1.0 ar gyfer gweddill Cymru.  
  • Gostyngodd y gyfradd absenoldeb parhaus ar 10%, o 49.5% (2022/23) i 31.3% (2024/25). Mae hyn yn well na chyfartaledd Cymru, sef 33.0, a’r cyfartaledd teuluol, sef 39.6. 
  • Gostyngodd absenoldebau parhaus ar 20%, o 18.1% (2022/23) i 11.7% (2024/25). Mae hyn yn well na chyfartaledd Cymru, sef 13.1%, a’r ayfartaledd teuluol, sef 17.0%. 
  • Mae’r gyfradd presenoldeb ar gyfer disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim wedi gwella o 2022-23 i 2024-25, o 82.9% i 86.1% ac mae uwchlaw cyfartaledd Cymru, sef 81.2%, a’r cyfartaledd teuluol, sef 80.7%. O ganlyniad: 
  • Mae presenoldeb mewn carfanau arholiadau wedi gwella, sy’n cefnogi deilliannau gwell gan ddisgyblion. 
  • Mae bylchau rhwng dysgwyr dan anfantais a’u cyfoedion wedi culhau. 

Yn bwysig, mae disgyblion a theuluoedd bellach yn dangos dealltwriaeth gryfach o ddisgwyliadau o ran presenoldeb, yn enwedig trwy ddefnyddio ‘wythnosau toredig’. Mae hyn wedi cyfrannu at ymgysylltu gwell ac ymyrraeth gynharach. 

Mae eglurder rolau a dull cyson ymhlith pob un o’r staff wedi cryfhau atebolrwydd ac wedi sicrhau bod presenoldeb yn flaenoriaeth ysgol gyfan.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer da?

Mae’r ysgol wedi rhannu ei harfer trwy rwydweithiau presenoldeb awdurdod lleol, cyfarfodydd ysgolion partner a chyfarfodydd cydweithio mewn clystyrau. Mae dull clwstwr cryf o ran presenoldeb yn sicrhau bod arfer orau yn cael ei rhannu ag ysgolion cynradd i ddarparu ymyrraeth gynnar.