Gwella presenoldeb disgyblion - Estyn

Gwella presenoldeb disgyblion

Ciplun

Mae gwaith yr ysgol i hybu a gwella presenoldeb yn gryfder sylweddol. Mae sawl strategaeth ar waith i sicrhau cynnydd yn y presenoldeb. Mae’r ysgol yn:monitro a thracio presenoldeb yn ofalus a mireinio systemau yn gysoncydweithio’n agos gyda swyddogion yr awdurdod lleolymweld â chartrefi i gefnogi disgyblion a theuluoeddsefydlu grwpiau ffocws penodoltrefnu nosweithiau rhannu gwybodaeth defnyddiol i rienirhedeg ymgyrchoedd hyrwyddo presenoldeb ysgol gyfansicrhau bod y cwricwlwm yn ysgogol ac yn addas i anghenion unigoliondarparu ymyraethau pwrpasol i unigolionblaenoriaethu darparu addysg o ansawdd uchelMae arweinwyr yn adnabod tueddiadau yn gynnar ac yn cefnogi disgyblion â phresenoldeb isel yn gyson. Mae’r ysgol yn gwerthuso yn rheolaidd effeithiolrwydd ei gwaith i wella presenoldeb disgyblion, ac yn ei addasu yn ôl yr angen. Mae gwaith yr ysgol yn y maes hwn wedi arwain at welliannau sylweddol. O ganlyniad, mae cyfraddau presenoldeb yr ysgol yn uwch na’r hyn a welir mewn ysgolion tebyg. Rhwng y blynyddoedd academaidd 2018-19 a 2022-23, roedd y gostyngiad yng nghyfradd presenoldeb yr ysgol yn llai na’r hyn a welwyd yn genedlaethol. Y llynedd, roedd presenoldeb ychydig yn well nag ysgolion tebyg a’r cynnydd mewn blwyddyn yn sylweddol uwch na’r cynnydd yn genedlaethol. Mae’r cyfraddau absenoldebau parhaus yn sylweddol is na’r cyfartaledd cenedlaethol ac ysgolion tebyg. Mae presenoldeb disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.