Gwella lles trwy ddull cyfannol, aml synhwyraidd.
Ciplun
Mae’r ysgol yn darparu man tawel a diogel lle caiff disgyblion gymorth effeithiol i reoli eu teimladau a meithrin eu hunan-barch. Mae’r ysgol yn cynnig rhaglen bersonol chwe wythnos, dan arweiniad aelod o staff sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol. Mae hyn yn helpu disgyblion i ddatblygu ystod o strategaethau i reoli eu hymddygiad a mynegi eu hemosiynau mewn ffordd fwy ystyriol. Y tu allan i’r sesiynau hyn, mae staff yn parhau i gynorthwyo disgyblion yn y dosbarth trwy ddarpariaeth gyffredinol a sesiynau galw heibio ychwanegol dros amser. Mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion sy’n cymryd rhan yn yr ymyrraeth hon yn dangos gwelliannau yn eu presenoldeb a’u cymhelliant, ac yn gwneud cynnydd gwell.