Gweithio mewn partneriaeth - Estyn

Gweithio mewn partneriaeth

Ciplun

Mae arweinwyr a staff yn datblygu ac yn cynnal partneriaethau strategol cryf sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at les, cynnydd a phrofiadau ehangach y disgyblion. Mae’r ysgol yn cydweithio’n hynod effeithiol â rhieni, asiantaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, ysgolion eraill a sefydliadau cymunedol i sicrhau dull hollol gynhwysol sy’n diwallu anghenion cymhleth y disgybl. O ganlyniad, mae’r ysgol yn ymateb yn sensitif ac yn effeithiol i’w hanghenion.Mae ymarfer person ganolog yn cyfrannu’n fwriadus at berthnasoedd llwyddiannus rhwng yr ysgol a rhieni. Mae rhieni yn cael cefnogaeth ar ddefnyddio strategaethau cytûn i gefnogi anghenion eu plant. Er enghraifft, mae arweinwyr wedi sefydlu grŵp ar y cyd gyda rhieni sydd yn eu cefnogi i ddatblygu medrau cyfathrebu, dulliau chwarae a lles emosiynol y disgyblion. O ganlyniad, mae rhieni’n teimlo’n fwy hyderus wrth gefnogi cynnydd a lles eu plant ac mae strategaethau cyson rhwng y cartref a’r ysgol yn cefnogi disgyblion yn effeithiol.Mae staff ymddygiad yr ysgol yn cefnogi disgyblion yn effeithiol i hunan reoleiddio a chyfathrebu eu teimladau. Maent yn dadansoddi patrymau ymddygiad yn fedrus ac yn haddasu’r ddarpariaeth i ddiwallu anghenion unigolion. Er enghraifft, mae staff wedi datblygu ystafelloedd synhwyraidd ac ardaloedd ymlacio i helpudisgyblion i hunan reoleiddio.Mae teithiau rheolaidd i siopau a chaffis lleol yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ddatblygu medrau bywyd mewn sefyllfaoedd go iawn. Mae staff yn rhannu adnoddau cyfathrebu â busnesau lleol i’w helpu i ddeall anghenion y disgyblion. O ganlyniad, mae disgyblion yn datblygu hyder ac yn cymhwyso eu medrau cymdeithasol yn llwyddiannus mewn cyd-destunau bob dydd.