Gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol i gefnogi disgyblion a’u teuluoedd - Estyn

Gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol i gefnogi disgyblion a’u teuluoedd

Ciplun

Mae staff ar bob lefel yn gwneud cyfraniad hynod effeithiol at sicrhau bod pob disgybl yn ddiogel ac yn teimlo’n ddiogel, ac yn gallu dysgu. Mae uwch arweinwyr yn meithrin perthnasoedd agos â disgyblion a’u teuluoedd. Maent yn adnabod yn brydlon pan fydd teuluoedd yn wynebu anawsterau ac yn gweithredu’n gyflym i ddarparu cymorth cynhwysfawr, yn uniongyrchol a thrwy gysylltiadau effeithiol ag ystod o asiantaethau cymorth. Mae arweinwyr yn addasu’r ddarpariaeth yn gyflym i ymateb i anghenion sy’n dod i’r amlwg ac yn parhau i sicrhau bod gan staff cymorth sydd wedi’u hyfforddi’n drylwyr y medrau angenrheidiol i weithio’n ddidrafferth ar draws dosbarthiadau, gan ddarparu cymorth uniongyrchol wedi’i deilwra i ddisgyblion. Mae’r ffordd arloesol y mae staff yn cynnwys teuluoedd ym mywyd yr ysgol yn cyfrannu’n gryf at gynnal perthnasoedd agos sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth, sy’n cael effaith sylweddol ar les a chynnydd disgyblion.