Gweithio mewn partneriaeth - Estyn

Gweithio mewn partneriaeth

Ciplun

Mae gan y pennaeth ddealltwriaeth glir o anghenion yr ysgol a’i chymuned ac mae’n llwyddo i greu ethos tîm cryf lle mae pawb yn cydweithio i gyfoethogi cyfleoedd dysgu a chyfleoedd mewn bywyd i ddisgyblion a’u teuluoedd. Mae arweinwyr yn cydweithio’n eithriadol o dda ag asiantaethau partner i gynnig cymorth gwerthfawr i deuluoedd.

Cynhelir diwrnodau gŵyl i deuluoedd yn rheolaidd, gyda chyfraniad gan asiantaethau allanol sy’n cynnig cyngor a chymorth i deuluoedd, gan gynnwys cymorth tai, cyngor gan wasanaethau iechyd meddwl, mynediad at y banc bwyd lleol a bwyd fforddiadwy o’r fferm gymunedol leol.

Yn ogystal, mae cysylltiadau â grŵp pêl-droed y Swans a’r brifysgol leol yn cyfoethogi profiadau disgyblion yn llwyddiannus ac yn helpu i godi eu dyheadau. Caiff hyn ei atgyfnerthu ymhellach pan fydd cyn-ddisgyblion yn ymweld â’r ysgol i siarad am eu llwybrau addysg a’u llwyddiannau.