Grymuso medrau arweinyddiaeth staff i yrru gwelliant parhaus mewn diwylliant o hunan-wella - Estyn

Grymuso medrau arweinyddiaeth staff i yrru gwelliant parhaus mewn diwylliant o hunan-wella

Ciplun

Mae’r pennaeth wedi sefydlu strwythurau arweinyddiaeth ddosranedig hynod effeithiol sy’n galluogi staff ar bob lefel i gyfrannu’n fwriadus at gyfeiriad strategol yr ysgol. Dyrennir rolau arwain yn fedrus i fanteisio ar arbenigedd a chryfderau unigolion, gan sicrhau ymrwymiad cryf arweinwyr at wella agweddau penodol o’r ddarpariaeth.Mae arweinwyr yn defnyddio tystiolaeth gadarn o weithgareddau hunanwerthuso trwyadl, ynghyd â mewnbwn gwerthfawr gan grwpiau llais y disgybl, i lunio darlun cytbwys o gryfderau’r ysgol a’r meysydd i’w mireinio ymhellach. Trwy brosesau gwerthuso miniog a chynllunio gwelliant bwriadus, maent yn adnabod blaenoriaethau a chamau gweithredu cytûn synhwyrol sy’n canolbwyntio’n glir ar wella lles a dysgu disgyblion yn barhaus. Mae arweinyddiaeth doeth y pennaeth yn meithrin diwylliant cadarn o hunan-fyfyrio proffesiynol. Trwy werthuso effaith eu gwaith yn rheolaidd, mae staff yn addasu eu harfer yn fedrus mewn ymateb i ganfyddiadau. Mae hyn yn cyfrannu’n gadarn at welliannau cynaliadwy yn ansawdd yr addysgu, ehangder y ddarpariaeth a deilliannau ddisgyblion dros amser.