Grymuso arweinyddiaeth i feithrin diwylliant o ddysgu proffesiynol parhaus
Ciplun
Mae’r pennaeth yn mynd ati i hyrwyddo arweinyddiaeth hyblyg ar draws yr ysgol, gan greu diwylliant lle mae pob aelod o staff yn teimlo wedi’i rymuso i gymryd rhan mewn dysgu proffesiynol o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar ymchwil. Drwy annog ymholi cydweithredol ac arfer fyfyriol, mae’r pennaeth yn sicrhau bod cyfleoedd dysgu proffesiynol yn ymateb i anghenion staff ac anghenion dysgu’r disgyblion. Mae’r dull cynhwysol hwn yn cefnogi gwelliant ac arloesedd parhaus, gan feithrin cymuned ddysgu lle mae gan bob aelod o staff y medrau i addysgu’n effeithiol. O ganlyniad, mae pob dysgwr yn gwneud cynnydd da o’u mannau cychwyn gwahanol.