Ethos ysgol gynhwysol
Ciplun
Mae arweinwyr a staff yn creu diwylliant cryf o gynhwysiant ar draws yr ysgol. Mae disgyblion hŷn yn y dosbarthiadau cyfleusterau addysgu arbenigol (CAA) yn chwarae rhan weithredol yng ngwaith yr ysgol trwy ei grwpiau arwain disgyblion. Mae staff yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion o’r dosbarth CAA ieuengaf ymuno â gweithgareddau dysgu mewn dosbarthiadau prif ffrwd. Mae disgyblion hŷn yn darparu cymorth ystyriol i ddisgyblion eraill ar draws yr ysgol yn ystod addoli ar y cyd ac amseroedd chwarae, ac mae bron pob disgybl yn dangos lefelau uchel o ofal a pharch tuag at ei gilydd.