Effaith gadarnhaol dulliau holi ar ddysgu disgyblion
Ciplun
Ledled yr ysgol, mae defnydd athrawon a chynorthwywyr cymorth dysgu o holi yn hynod effeithiol. Maent yn gofyn ystod o gwestiynau yn fedrus sy’n eu helpu i ganfod dealltwriaeth disgyblion, asesu eu cynnydd a nodi unrhyw gamsyniadau. Maent yn ymateb yn ystyriol i ddisgyblion, gan ddarparu adborth ac eglurhad prydlon a buddiol iddynt, ac yn addasu’r camau nesaf yn nysgu disgyblion yn unol â hynny. At ei gilydd, mae disgyblion yn gwrando’n ofalus ar yr adborth a gânt, yn ei werthfawrogi ac yn ei ddefnyddio i symud eu dysgu yn ei flaen yn llwyddiannus.