Dulliau diddorol o addysgu rhifedd
Mewn llawer o achosion, mae addysgu rhifedd yn hynod effeithiol ar draws yr ysgol. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cryf yn y maes hwn, ac mae llawer ohonynt yn mwynhau’r gwersi yn arbennig. Mae athrawon yn herio disgyblion yn rheolaidd trwy ddefnyddio dull ymholi. Maent yn annog disgyblion i ofyn cwestiynau, adnabod patrymau a gwneud rhagfynegiadau yn llwyddiannus. Mae staff yn hyrwyddo’r defnydd o offer ymarferol yn gyson i gefnogi dealltwriaeth disgyblion o gysyniadau mathemategol. Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ac, o oedran ifanc, mae disgyblion yn dewis adnoddau yn rhwydd i gefnogi eu ffordd o feddwl. Mae digwyddiadau pleserus ar gyfer yr ysgol gyfan, fel ‘Gemau Olympaidd y Tatws’, lle mae disgyblion yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau rhifedd, yn ennyn diddordeb disgyblion yn effeithiol. Mae hyn yn cymell disgyblion yn dda ac yn cryfhau eu gallu i gymhwyso medrau rhifedd ar draws y cwricwlwm.