Dull cydweithredol o wella ysgol yn gyflym - Estyn

Dull cydweithredol o wella ysgol yn gyflym

Ciplun

Mae dull strategol a chydweithredol yr ysgol o hunanwerthuso a gwella’r ysgol, sy’n cynnwys yr holl randdeiliaid, wedi sicrhau newidiadau pwrpasol sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar addysgu, dysgu a lles mewn cyfnod byr. Mae uwch arweinwyr a staff ar bob lefel yn gwerthuso cynnydd tuag at bob blaenoriaeth gwella yn rheolaidd. Maent yn defnyddio’r wybodaeth a gasglant yn bwrpasol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i lywodraethwyr, addasu targedau ac addasu neu fireinio dulliau gweithredu.