Diwylliant cydweithredol o hyfforddiant - Estyn

Diwylliant cydweithredol o hyfforddiant

Ciplun

Gweithiodd uwch arweinwyr yr ysgol gyda’r holl staff i werthuso safonau ysgrifennu yn yr ysgol a chymryd cyfrifoldeb am sicrhau’r gwelliant angenrheidiol. Defnyddiwyd eu medrau a’u gwybodaeth broffesiynol i fodelu’r ansawdd addysgu a dysgu disgwyliedig i staff eraill. Yna, buont yn gweithio ochr yn ochr â staff i’w hyfforddi i roi strategaethau ar waith, fel ysgrifennu wedi’i fodelu ac ysgrifennu ar y cyd. Mae’r gwaith hwn wedi cael effaith uniongyrchol ar addysgu ac wedi helpu disgyblion i wneud cynnydd cyflymach yn eu datblygiad fel ysgrifenwyr. Mae’r diwylliant o hyfforddi a chydweithio wedi ymledu ar draws yr ysgol ac mae athrawon yn ymgysylltu’n rheolaidd ag ymchwil, yn rhoi cynnig ar strategaethau ac yn rhannu’r hyn y maent wedi’i ddysgu â chydweithwyr. Mae hyn yn aml yn arwain at welliannau mewn arfer broffesiynol, er enghraifft yn ansawdd holi athrawon yn ystod gwersi.