Disgyblion sy’n arwain, yn cysylltu ac yn cyfrannu’r tu hwnt i’r ystafell ddosbarth - Estyn

Disgyblion sy’n arwain, yn cysylltu ac yn cyfrannu’r tu hwnt i’r ystafell ddosbarth

Ciplun

Mae llais y disgybl yn gryfder sylweddol yn yr ysgol, gyda disgyblion yn chwarae rhan weithredol mewn gwneud penderfyniadau trwy bwyllgorau sydd wedi’u hen sefydlu a chyfleoedd arwain. Maent yn dylanwadu ar y cwricwlwm, yn helpu i lunio amgylchedd yr ysgol ac yn cyfrannu at benodi staff, yn ogystal â chynrychioli’r ysgol yn hyderus mewn fforymau lleol a chenedlaethol. Trwy rolau fel aelodau o gyngor yr ysgol, llysgenhadon chwaraeon, y pwyllgor eco a’r Criw Cymraeg, mae disgyblion yn casglu ac yn cyflwyno barn eu cyfoedion, gan ddatblygu medrau cyfathrebu, arwain, gwaith tîm a dinasyddiaeth cryf.

Ategir y profiadau arwain hyn gan gysylltiadau dwfn yr ysgol â’i chymuned. Mae prosiectau sy’n pontio’r cenedlaethau, partneriaethau ag elusennau lleol ac ymweliadau rheolaidd â chartrefi preswyl yn cyfoethogi dysgu disgyblion ac yn cryfhau eu hymdeimlad o berthyn. Mae gweithgareddau fel ‘Sing and Smile’, adrodd storïau yn y gymuned, digwyddiadau dwyieithog a sesiynau darllen yn helpu disgyblion i fagu hyder, datblygu empathi a chryfhau eu hunaniaeth ddiwylliannol, gan atgyfnerthu eu medrau llythrennedd a’u lles.

Gyda’i gilydd, mae’r cyfleoedd hyn yn galluogi disgyblion nid yn unig i ddylanwadu ar eu hysgol, ond hefyd i wneud cyfraniad ystyrlon i’w cymuned ehangach.