Defnyddio’r awyr agored i gefnogi lles emosiynol disgyblion a’u medrau yn y celfyddydau mynegiannol
Ciplun
Un o agweddau cryfaf yr addysgu ar draws yr ysgol yw’r defnydd hynod effeithiol o ddysgu yn yr awyr agored. Mae athrawon a staff cymorth yn defnyddio profiadau sy’n seiliedig ar natur i ysbrydoli disgyblion i ddatblygu eu medrau yn y celfyddydau mynegiannol, ac mae hyn yn atgyfnerthu’r syniadau a gyflwynir yn yr ystafell ddosbarth yn llwyddiannus. Er enghraifft, wrth astudio adar, creodd disgyblion Blwyddyn 4 a Blwyddyn 5 batrymau yn seiliedig ar heidiau drudwy yn hedfan mewn ffurfiannau cydlynol, a lluniwyd ganddynt ddarluniau manwl o blu a ddarganfuwyd yn ardal bywyd gwyllt yr ysgol. Mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion hŷn yn dweud bod dysgu yn yr awyr agored yn cefnogi eu lles emosiynol ac yn lleihau eu gorbryder.