Defnyddio ymholi proffesiynol i feithrin cymuned ddysgu
Ciplun
Yn Ysgol Gatholig y Santes Fair, mae’r dull o ddatblygu’n broffesiynol trwy ymholi ysgol gyfan wedi ysbrydoli staff ac wedi bod o fudd iddynt hwy a’u disgyblion. Cyfeirir at reoli perfformiad statudol fel ‘twf proffesiynol’. Mae’r dull hwn yn cynnwys ystod eang o ddarllen proffesiynol a threialu dulliau â ffocws manylach yn ofalus yn yr ystafell ddosbarth. Mae hyn yn arwain at brofiadau dysgu gwell a mwy o gymhelliant ymhlith staff. Mae’r arloesi hwn, dan arweiniad athrawon, yn hyrwyddo cydweithio o fewn yr ysgol a thu hwnt, gyda ffocws clir ar welliant, ac yn y pen draw mae’n cael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau dysgwyr.