Defnyddio dysgu yn yr awyr agored mewn ffordd arloesol i wella agweddau at ddysgu.
Ciplun
Mae gan yr ysgol ddulliau effeithiol ar waith i ddatblygu gwydnwch emosiynol disgyblion. Mae’r ysgol yn defnyddio dysgu yn yr awyr agored yn llwyddiannus i gefnogi disgyblion sydd wedi ymddieithrio oddi wrth ddysgu i ddatblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu a gwella eu deilliannau dysgu. Trwy gynyddu’r cyfleoedd i ddisgyblion unigol ddysgu yn yr awyr agored a chreu cysylltiadau rhwng dysgu yn yr awyr agored a dysgu yn yr ystafell ddosbarth, mae athrawon yn llwyddo i ailennyn diddordeb disgyblion yn eu dysgu.