Defnyddio arsylwadau’n bwrpasol i ddiwallu anghenion pob un plentyn
Quick links:
Gwybodaeth am y lleoliad
- Mae’r cylch wedi ei leoli mewn ystafell ar safle Ysgol Cymerau ym Mhwllheli.
- Mae Pwllheli yn dref farchnad arfordirol sy’n gwasanaethu’r dref ei hun a chymunedau gwledig cyfagos.
- Mae tua hanner y plant yn dod o gartrefi Cymraeg iaith gyntaf.
- Mae’r lleoliad yn cynnal un sesiwn Dysgu Sylfaen bob bore rhwng 9.00-11.00.
- Mae’r plant Meithrin Mwy a phlant y cylch yn cael cynnig gofal yn y lleoliad rhwng 11.00- 3.00
- Mae’r arweinydd a 6 cymhorthydd yn cefnogi yn y lleoliad. Mae 2 o’r chwech yn uwch gymorthyddion pan nad yw’r arweinydd ar y safle.
- Mae ardal tu allan pwrpasol yn y lleoliad. Mae’r drws ar agor drwy’r sesiwn i ganiatáu’r plant symud yn annibynnol rhwng yr ardal tu allan a thu mewn. Defnyddir iard yr ysgol ar gyfer gweithgareddau corfforol eraill.
- Mae’r cylch yn rhan o gynllun gwên.
Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol
Mae ymarferwyr yn ein lleoliad yn casglu ac yn defnyddio arsylwadau’n fwriadus er mwyn diwallu anghenion pob plentyn, a thrwy hynny rydym yn cryfhau addysgu ac asesu ar draws pob rhan o’r ddarpariaeth. Mae’r dull yn seiliedig ar egwyddor syml a chyson.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd
Er mwyn sicrhau cynhwysiant, mae pob plentyn yn cael ei arsylwi gan ddefnyddio’r un dull, er bod yr asesiadau’n benodol i bob plentyn. Hynny yw, mae’r ymarferwyr yn deall bod pob plentyn yn gwneud cynnydd ac yn datblygu yn ei ffordd unigol ei hun. Mae arsylwi dyddiol gan bob ymarferydd yn arwain yn uniongyrchol at gamau nesaf clir, ac mae’r camau hynny’n dylanwadu ar gynllunio a’r profiadau dyddiol sydd ar gael i’r plant.
Mae pob ymarferydd yn y tîm yn arsylwi ar y plant yn ddyddiol fel rhan naturiol o’r rhyngweithio gyda’r plant. Caiff yr arsylwadau hyn eu casglu drwy dynnu lluniau o ddysgu go iawn mewn cyd-destunau dilys. Yna mae’r ymarferydd yn cofnodi’n gryno ar y llun beth ddigwyddodd, gan nodi’r hyn a wnaeth y plentyn, yr hyn a ddywedodd (lle bo’n briodol), a’r sgiliau a welwyd. Mae hyn yn sicrhau bod y dystiolaeth yn gywir, yn berthnasol ac yn adlewyrchu cynnydd o ddydd i ddydd, yn hytrach na thasgau artiffisial. Mae’r arsylwadau’n cynnwys eiliadau trawiadol, profiadau, a cham nesaf clir i gefnogi dysgu’r plant.
Er mwyn sicrhau cysondeb ac eglurder, mae’r tîm yn defnyddio system cod lliw ar bob arsylwad i ddangos statws cynnydd a’r camau nesaf. Er enghraifft, mae glas yn nodi cam nesaf clir, tra bod gwyrdd yn nodi bod y plentyn wedi cyrraedd targed unigol, a melyn yn nodi bod y plentyn yn gwneud cynnydd yn erbyn targedau a osodwyd ar ei Cynllun Datblygu Unigol (CDU). Os yw ymarferwyr wedi sylwi bod angen rhagor o gefnogaeth ar blentyn i ddatblygu sgil ymhellach, caiff hyn ei gofnodi mewn glas, gyda sylwadau ac enghreifftiau ar sut i gefnogi’r plentyn i gyrraedd ei botensial llawn.
Pan fydd plant yn dechrau yn y cylch, mae ymarferwyr yn cydweithio i lunio targed unigol i bob plentyn, yn dibynnu ar ei anghenion unigol. Gall y targed hwn fod ar gyfer y flwyddyn (e.e. cefnogi’r plentyn i siarad Cymraeg), neu gall newid os bydd y plentyn wedi llwyddo i’w gyflawni. Mae’r arsylwadau hyn yn cael eu cofnodi mewn gwyrdd. Mae’r system hon yn cefnogi plant ag ADY yn effeithiol iawn. Os oes gan blentyn CDU, bydd yr arsylwadau yn erbyn ei dargedau unigol yn felyn. Mae’r arsylwadau dyddiol yn darparu tystiolaeth glir o gynnydd yn erbyn gwahanol dargedau, neu’n nodi os oes angen rhagor o gefnogaeth ar y plentyn. Mae’r codio hwn yn gwneud y wybodaeth yn hawdd i’w dehongli ar unwaith gan unrhyw aelod o staff, ac yn galluogi’r tîm i ymateb yn gyflym drwy addasu’r her, y gefnogaeth neu’r ddarpariaeth.
Mae pob arsylwad hefyd yn nodi pa lwybr datblygu sy’n cael ei gyrraedd, gan gysylltu’r dystiolaeth â meysydd fel Perthyn, Archwilio, Cyfathrebu, Lles a Chorfforol. Mae hyn yn cryfhau’r dilyniant ac yn sicrhau bod y tîm yn olrhain cynnydd yn fwriadol yn erbyn sgiliau’r llwybrau datblygu, yn hytrach na chasglu tystiolaeth ar wahân i gynllunio. Mae’r ffaith bod pob ymarferydd yn rhan o’r broses yn gryfder amlwg. Caiff y gyfrifoldeb ei rhannu, mae’r ddealltwriaeth o’r plant yn gyfoethocach, ac mae’r ymateb i anghenion yn fwy cyson.
Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?
O ganlyniad, mae’r tîm yn gallu diwallu anghenion pob plentyn yn fwy uniongyrchol ac olrhain cynnydd yn fwy manwl. Cafodd yr arfer hwn ei gydnabod fel arfer blaengar oherwydd y ffordd y mae arsylwadau dyddiol, codio clir, cyfrifoldeb tîm a chysylltu â llwybrau datblygu yn gweithio gyda’i gilydd i wella addysgu ac asesu yn barhaus. Caiff y llyfrau taith dysgu hyn eu rhannu gyda rhieni a gwarchodwyr ym mhob noson rieni, er mwyn trafod cynnydd unigol pob plentyn a darparu tystiolaeth weledol. Mae’r adborth a dderbyniwyd gan rieni am y llyfrau a’r system arsylwi yn gadarnhaol iawn.
Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?
Siarad mewn cynhadledd Mudiad Meithrin.
Rhannu arferion da gydag athrawon ac arweinyddion eraill.