Defnydd effeithiol y staff o’r ardaloedd dysgu deniadol ac ysgogol
Ciplun
Mae’r ysgol yn gwneud defnydd effeithiol o’r ardaloedd allanol i wella profiadau dysgu’r disgyblion. Mae’r disgyblion ieuengaf yn elwa o gyfleoedd gwerthfawr i ddefnyddio’r warchodfa natur, gan ddysgu am wahanol fathau o adar a’u bwydo’n rheolaidd. Mae’r disgyblion hynaf yn gyfrifol am fagu gwenyn mel yr ysgol, gan dderbyn hyfforddiant i drin y cwch gwenyn a chynaeafu mêl i’w werthu yn y gymuned leol. Mae’r dulliau hyn yn cyfrannu’n effeithiol at ddatblygiad eu medrau cydweithio, sgiliau cymdeithasol a dealltwriaeth y dsigyblion o’r byd naturiol. O ganlyniad, mae disgyblion yn ymfalchïo yn eu cyfraniadau at fywyd yr ysgol ac yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o’u hamgylchedd naturiol.