Defnydd dychmygus o ardd yr ysgol
Ciplun
Mae staff wedi datblygu’r ardd mewn modd creadigol a llwyddiannus iawn i gyfoethogi’r ddarpariaeth a hybu creadigrwydd y disgyblion. Er enghraifft, mae’r llong fôr-ladron a’r castell yn sbarduno dychymyg disgyblion i chwarae rôl ddychmygus yng nghyd-destun eu thema gyfredol. Mae hyn yn meithrin eu chwilfrydedd a’u creadigrwydd ac yn eu hannog i sgwrsio’n gwbl naturiol wrth ddyfalbarhau â’u tasgau yn yr awyr agored.