Defnydd detholus a hyderus disgyblion o fedrau digidol i gyfoethogi eu gwaith
Ciplun
Mae disgyblion yn datblygu medrau digidol hynod effeithiol. Ar draws yr ysgol, maent yn defnyddio’r medrau hyn yn hyderus ac yn greadigol i gyfoethogi eu dysgu yn ddiymdrech. Mae ganddynt ddealltwriaeth dda o bryd y gellir defnyddio dyfeisiau digidol i gael yr effaith orau. Mae llawer o’r disgyblion hynaf yn defnyddio ystod eang o dechnoleg ddigidol i greu prosiectau soffistigedig, er enghraifft wrth raglennu robotiaid i gyfathrebu â’i gilydd yn Gymraeg. Mae arweinwyr digidol yn chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu medrau digidol disgyblion ar draws yr ysgol.