Defnydd arweinwyr o ddysgu proffesiynol i wella cynnydd disgyblion - Estyn

Defnydd arweinwyr o ddysgu proffesiynol i wella cynnydd disgyblion

Ciplun

Mae arweinwyr yn adnabod ac yn deall anghenion disgyblion a’r gymuned y maent yn byw ynddi yn dda. Mae ganddynt ddealltwriaeth glir o ddysgu ac addysgu effeithiol, ac maent yn defnyddio’r wybodaeth hon, ynghyd â’u dealltwriaeth o anghenion disgyblion, yn dda i ddatblygu addysgu ar draws yr ysgol ac i sicrhau bod disgyblion yn gwneud cynnydd. Maent yn cysylltu cyfleoedd dysgu proffesiynol yn ystyriol â blaenoriaethau gwella, er enghraifft er mwyn gwella ansawdd ysgrifennu disgyblion.