Dathlu Cymreictod a threftadaeth amrywiol disygblion fel rhan annatod o gynhwysiant yr ysgol
Ciplun
Mae diwylliant cryf o gynhwysiant yn greiddiol i’r ysgol. Mae arweinwyr yn sicrhau bod disgyblion sy’n mynychu’r canolfannau adnoddau anghenion arbennig (CAA) yn cael eu hintegreiddio’n fwriadus ym mywyd a gwaith yr ysgol. Mae staff yn gweithio’n dda i gryfhau’r ethos hwn ymhellach trwy godi ymwybyddiaeth disgyblion o bwysigrwydd dathlu amrywiaeth a chynnwys pobl o wahanol gefndiroedd ac ethnigrwydd, yn ogystal â phobl â gwahanol gredoau ysbrydol a pherthnasoedd personol.